Mae cyn-Arlywydd Ffrainc, Valery Giscard d’Estaing, wedi marw yn 94 oed ar ôl cael ei heintio gyda Covid-19.
Bu farw yn ei gartref yn ardal Loir-et-Cher yn Ffrainc.
Cafodd ei eni yn 1926 ac roedd wedi gwasanaethu gyda Byddin Rydd Ffrainc oedd wedi helpu i ryddhau Paris o grafangau’r Natsïaid yn ystod yr Ail Ryfel Byd. Cafodd ei benodi yn weinidog cyllid gan Charles de Gaulle pan oedd yn 36 oed.
Bu’n arlywydd rhwng 1974 a 1981 ac yn allweddol wrth gyflwyno’r ewro, ynghyd a’i ffrind agos, cyn-Ganghellor yr Almaen, Helmut Schmidt. Roedd hefyd yn allweddol wrth integreiddio Prydain i’r Undeb Ewropeaidd yn y 1970au.
Valery Giscard d’Estaing oedd wedi ysgrifennu’r erthygl yn siarter yr UE oedd wedi caniatáu i Brexit ddigwydd sef y mesur sy’n caniatáu i aelod adael y bloc.
Wrth i Brydain adael yr UE dywedodd Valery Giscard d’Estaing bod hynny’n “gam yn ôl” ond ychwanegodd: “Fe wnaethon ni weithredu heb Brydain yn ystod blynyddoedd cyntaf yr Undeb Ewropeaidd.. felly fe fyddwn ni’n ail-greu sefyllfa ry’n ni eisoes yn gyfarwydd gydag e.”
Yn ystod ei gyfnod fel arlywydd bu hefyd yn gyfrifol am lacio’r gyfraith ynglŷn ag ysgaru ac erthyliad.
Fe gollodd ei ymgais i gael ei ail-ethol yn 1981 i’r Sosialydd Francois Mitterrand.