Bydd ymgynghoriad wyth wythnos, a lansiwyd heddiw (Rhagfyr 3) yng Nghymru a Lloegr, yn casglu barn ar ddod ag allforion anifeiliaid byw i’w lladd a’u pesgi i ben.

Pan fydd y Deyrnas Unedig yn gadael yr Undeb Ewropeaidd bydd hawl ganddynt i ddeddfu rheolau a fyddai’n atal dioddefaint anifeiliaid wrth eu cludo ar deithiau hir.

Yn 2018 cafodd oddeutu 6,400 o anifeiliaid eu cludo o’r Deyrnas Unedig i’w lladd ar y cyfandir.

Mae’r Llywodraethau hefyd yn ymgynghori ar gynigion i wella lles anifeiliaid ymhellach wrth ostwng amseroedd teithio, mwy o ofod wrth eu cludo, a rheolau llymach ar wres neu oerfel eithafol wrth eu cludo.

‘Dim cyfiawnhad rhesymol’

Croesawyd yr ymgynghoriad gan grwpiau lles anifeiliaid, sydd wedi bod yn ymgyrchu ar y mater ers dros 50 mlynedd.

“Does dim cyfiawnhad rhesymol o gwbl i roi anifail ar daith ddiangen dramor dim ond iddyn nhw gael eu pesgi i’w lladd,” meddai Chris Sherwood, prif weithredwr yr RSPCA.

“Byddai rhoi terfyn ar allforion byw i’w lladd a’u pesgi ymhellach yn gyflawniad nodedig i les anifeiliaid.”

Dywedodd Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig, Lesley Griffiths ei bod yn  ymroddedig i sicrhau’r safonau lles uchaf ar gyfer anifeiliaid Cymru.

“Credaf mai dull gweithredu ar draws Prydain yw’r ffordd orau ymlaen ar gyfer y dyfodol i sicrhau ein bod yn diogelu ac yn gwella lles anifeiliaid sydd ar hyn o bryd yn mynd ar deithiau hirfaith,” meddai.

“Byddwn yn ystyried canlyniadau’r ymgynghoriad hwn i lywio ein cyfeiriad polisi yn y dyfodol yng Nghymru ar y mater datganoledig hwn.

“Rwy’n annog y diwydiant amaeth, partneriaid a phawb sydd â diddordeb mewn lles anifeiliaid i gymryd rhan a rhannu eu safbwyntiau â ni ar y mater pwysig hwn.”