Mae mwy na 130 o fusnesau yng ngogledd Cymru wedi ysgrifennu at y Prif Weinidog, Mark Drakeford, yn rhannu eu pryderon am effaith negyddol y cyfyngiadau newydd ar y sector lletygarwch.
Mae Cynghrair Mersi a’r Ddyfrdwy yn cefnogi busnesau yn Nyfrdwy a Gorllewin Swydd Gaer – a’r llythyr wedi ei yrru ar ran dros 130 o fusnesau sydd wedi cael eu heffeithio yn yr ardal.
“Mae busnesau twristiaeth, lletygarwch, hamdden a chadwyn gyflenwi gogledd Cymru yn sylfaen hanfodol i’n heconomi yn y Gogledd ac maent yn allweddol i fywoliaeth llawer o weithwyr a’u teuluoedd a’u cymunedau,” meddai’r llythyr.
Maen nhw’n galw ar Lywodraeth Cymru i ddarparu’r dystiolaeth i ddangos bod gan ogledd Cymru gyfraddau heintio cynyddol, cefnogaeth ariannol sy’n adlewyrchu’r masnachu Nadolig a fydd yn cael ei golli, ac am gydweithio pellach cyn cyflwyno rhagor o gyfyngiadau yn y dyfodol.
Cwestiynu’r meini prawf ar gyfer y pecyn cymorth
Mae Cynghrair Mersi a’r Ddyfrdwy yn egluro eu bod nhw’n deall yr angen i gyflwyno cyfyngiadau er mwyn lleihau effeithiau pandemig Covid-19.
“Yn dilyn y cyfyngiadau lleol a’r clo cenedlaethol diweddar mae cyfradd y profion/achosion i bob 100,000 o bobol ledled gogledd Cymru wedi gostwng.
“Mae’r mesurau hyn a roddwyd ar waith gan Lywodraeth Cymru wedi gweithio.”
Ond er bod y Gynghrair yn croesawu’r cyhoeddiad y bydd pecyn cymorth o £160m a £180m ar gael maent wedi cwestiynu’r meini prawf.
“O ran pwy sy’n gymwys i gael cefnogaeth gan y gronfa £180m, mae’n rhaid bod ‘effaith sylweddol ar drosiant o fwy na 60% o ganlyniad i’r cyfyngiadau.’
“Mae hyn yn golygu nad yw busnes sy’n colli hanner trosiant allweddol fis Rhagfyr (rhwng 15-25% o’u trosiant blynyddol) yn gymwys i gael cymorth.
“Mae hyn yn amhriodol o ystyried y flwyddyn drychinebus y mae ein busnesau wedi’i chael a phwysigrwydd cyfnod masnachu’r Nadolig. Mae’r gefnogaeth ariannol flaenorol wedi bod a meini prawf is o 40%.
“Gofynnwn fod gwersi’n cael eu dysgu ar unwaith o gamgymeriadau o ran Cronfa Benodol Sector ERF gwerth £180m, a’r anawsterau technegol a gafodd y rhan fwyaf o fusnesau wrth wneud cais amdano.”
‘Llond bol’
Mae Darren Millar, Gweinidog cysgodol Ceidwadol Cymru dros Adferiad Covid-19, wedi cefnogi’r llythyr.
“Mae’r llythyr hwn yn wirioneddol ddigynsail,” meddai.
“Ers ugain mlynedd mae Gogledd Cymru wedi cael ei hanghofio gan Lywodraethau olynol dan arweiniad Llafur Cymru, ond mae’r llythyr hwn yn dangos bod pobol wedi cael llond bol, yn barod i ymladd, ac nad ydynt yn fodlon â’r cyfyngiadau newydd yma.
“Gyda llai na 48 awr i fynd, nid yw’r rheolau wedi’u cyhoeddi o hyd, gan adael busnesau yn y tywyllwch ac yn methu cynllunio ar gyfer y dyfodol.
“I roi halen ar y briw, bydd yn rhaid i fusnesau aros tan fis Ionawr cyn y gallant gael gafael ar y cyllid sydd ei angen arnynt.”