Mae’n bosib y bydd Cymru ar ei cholled o £500m erbyn 2025-26 yn sgil newidiadau’r i gyllid trafnidiaeth, yn ôl gwaith gan Ganolfan Llywodraethiant Cymru.

Yn sgil adolygiad gwariant Rishi Sunak, y Canghellor, mae wedi dod i’r amlwg bod y Trysorlys wedi newid y ffordd y bydd Cymru’n derbyn cyllid trafnidiaeth.

Yn ei Ddatganiad Polisi Cyllido mae’r Trysorlys wedi cyhoeddi ‘ffactorau cymaradwyedd’ newydd – mae’r rhain yn adlewyrchu i ba raddau mae gwariant adrannau Llywodraeth y DU wedi’u datganoli.

Mae ‘ffactor cymaradwyedd’ yr Adran Drafnidiaeth wedi disgyn o 80.9% yn 2015, i 36.6% yn 2020, sy’n golygu canran llai o arian yn dod i Lywodraeth Cymru pan fydd cyllideb yr adran yn cynyddu.

Daw’r gwymp o ganlyniad i’r ffordd yr ymdrinir â phrosiect rheilffyrdd HS2, a Network Rail (corff cyhoeddus hyd braich i’r Adran Drafnidiaeth yn Lloegr).

HS2 a Network Rail

Caiff prosiect HS2 ei gategoreiddio’n brosiect ‘Lloegr a Chymru’ – a hynny er bod y prosiect yn gyfan gwbl yn Lloegr.

Mae’r prosiect felly’n denu ‘ffactor cymaradwyedd’ o 0% (hynny yw, dim arian ychwanegol i Lywodraeth Cymru).

Gaetha’r modd, mae’r sefyllfa ychydig yn gymhlethach gyda Network Rail:

Am y tro cyntaf erioed mae gwariant Network Rail wedi ei gynnwys yng nghyllideb yr Adran Drafnidiaeth, sy’n lleihau ‘ffactor cymaradwyedd’ trafnidiaeth ar y cyfan.

Yn ôl yr hyn y mae golwg360 yn ei ddeall, am nad yw wedi’i ddatganoli, pe bai Network Rail ddim yn rhan o’r adran ac ar wahân, byddai Cymru yn derbyn arian yn sgil hynny.

Mae’r drefn yn wahanol yn hyn o beth ar gyfer yr Alban.

Casgliadau’r Ganolfan

Pe bai HS2 yn cael ei ystyried yn brosiect Lloegr yn unig, gyda ‘ffactor cymaradwyedd’ o 100%, byddai Cymru’n derbyn £204m yn rhagor o 2021-22 hyd at 2025-26.

Pe bai ‘ffactor cymaradwyedd’ o 100% i HS2, yn ogystal â bod Network Rail ar wahân i’r Adran Drafnidiaeth (hynny yw, yr hen drefn), byddai Cymru yn derbyn £505m yn rhagor dros y cyfnod yma.

Casgliadau Canolfan Llywodraethiant Cymru yw’r rhain oll, a gallwch chi ddarllen y cyfan yn eu hadroddiad diweddaraf.