Mae ymgyrchwyr Cylch yr Iaith wedi galw am fwy o reolaeth dros dwristiaeth yng Nghymru.
Daw hynny yn sgil eu hymchwil, sy’n nodi bod dadleuon o blaid hyrwyddo twristiaeth, megis creu swyddi a gwariant ymwelwyr yn “esgusodi sgîl-effeithiau annymunol y sector.”
Mae Cylch yr Iaith yn dadlau y dylid mynd i’r afael a’r sefyllfa drwy gasglu ystadegau a rhoi ystyriaeth fanylach i geisiadau cynllunio, gan ystyried buddiannau’r cymunedau lleol.
Y gobaith yw ysgogi newid i’r ffordd y mae cynghorau lleol a Llywodraeth Cymru yn gweithredu ar y mater.
Twristiaeth yn “tanseilio” ein cymunedau
Mae’r gwaith ymchwil, sydd yn dadansoddi ystadegau meintiol astudiaethau blaenorol, yn canfod mai’r ardaloedd lleiaf ffyniannus yw’r rhai â’r canrannau uchaf o weithwyr yn y sector twristiaeth.
Mae’r papur yn defnyddio ffigurau ffynonellau fel Banc y Byd, Llywodraeth Cymru, a’r Swyddfa Ystadegau Gwladol, i awgrymu bod “twristiaeth drom” yn tueddu i fod “yn gysylltiedig â thlodi.”
“Mae’r ardaloedd sydd â phwyslais mawr ar dwristiaeth a ble mae twristiaeth yn rhan fawr o’r economi yn ardaloedd sydd yn dlawd a dydi hynny ddim yn gyd-ddigwyddiad,” meddai Howard Huws, cydlynydd ymgyrch dwristiaeth Cylch yr iaith.
Mae’r astudiaeth yn nodi bod hynny’n gysylltiedig â’r ffaith fod “cyflogau yn y sector yn isel, ac nad yw gwaith yn y sector yn cynhyrchu llawer o gyfoeth.”
Y pandemig yn amlygu ansefydlogrwydd y sector dwristiaeth
Er ei fod yn cydnabod nad yw’r ddadl hon yn un newydd, teimla Howard Huws fod y pandemig wedi bod yn gatalydd ar gyfer newid.
“Mae pobl wedi sylwi ar hyn ers degawdau,” meddai, “ond yn ddiweddar mae hi wedi dod yn fwy amlwg yn sgil cyfyngiadau’r coronafeirws a’r rhuthr i brynu tai haf.”
Dywedodd bod ansefydlogrwydd y sector dwristiaeth hefyd wedi dod yn fwy amlwg dros y misoedd diwethaf.
“Hyd yn oed ar y gorau mae twristiaeth yn dibynnu ar y tywydd… ar faint o arian sydd gan bobl i wario… ar ffasiynau a sefyllfaoedd gwleidyddol – mae pob math o ffactorau yn gallu effeithio yn uniongyrchol ar dwristiaeth.
“O ran pandemig neu ddirwasgiad economaidd – dyma un o’r diwydiannau cyntaf i ddioddef […] gan ei fod mor ansefydlog ac annibynadwy.”
Angen meddwl “ar sail ffeithiau”
Mae’r ddogfen yn amlygu argymhellion ynghylch sut y gellid dechrau gwella’r sefyllfa fel bod “twristiaeth yn cyfrannu at ffyniant.”
“Rhaid gweithredu’n ddi-oed ar hyn, oherwydd gyda’r fasnach dwristiaeth bresennol yn prysur gyfrannu at danseilio’r union gymunedau sydd yn cynnal ein hiaith a’n diwylliant, nid yw gwneud dim ynglŷn â’r sefyllfa yn ddewis,” meddai Howard Huws.
“Y gwirionedd caled ydi bod angen meddwl… a meddwl ar sail ffeithiau – dyma’r ffigyrau… mae hyn yn hen hanes i ni erbyn hyn felly – be ’da ni am neud ynglŷn a’r peth?”
Ymateb Llywodraeth Cymru
Wrth ymateb, dywedodd llefarydd Llywodraeth Cymru wrth golwg360:
“Fe lansiwyd ‘Croeso I Gymru – Blaenoriaethau ar gyfer Economi Ymwelwyr 2020-25’ gan y Prif Weinidog ym mis Ionawr a’i nod yw mynd i’r afael â rhai o’r prif heriau sy’n wynebu’r diwydiant twristiaeth yng Nghymru – sef natur dymhorol, gwariant, a lledaeniad ymwelwyr.
“Y flaenoriaeth yw tyfu twristiaeth er lles Cymru ac fe fyddwn yn gwneud hyn drwy wrando ar drigolion, ymwelwyr a busnesau.
Rydym yn parhau i fod yn ymrwymedig i’r blaenoriaethau hynny a byddwn yn gweithio gyda rhanddeiliaid ar lefel leol a chenedlaethol i addasu’r camau hyn yn ystod adferiad y sector o sgil effeithiau’r pandemig.”
Darllen mwy