Yn ystod y cyfnod ansicr sydd ohoni, doedd dim ond un peth amdani i dîm Datblygu’r Gymraeg yng Nghyngor Sir Ceredigion – rhoi’r Gymraeg ar waith yn ddigidol.
Mae hynny wedi golygu bod disgyblion a fyddai wedi mynychu canolfannau iaith, wedi cael eu gwersi yn rhithiol.
Pwrpas canolfannau iaith yw gosod sylfaen ieithyddol gadarn i blant di-Gymraeg, sy’n eu galluogi i ymdopi mewn awyrgylch addysgiadol dwyieithog.
Mae’r tîm hefyd wedi creu tudalen Facebook Cardi Iaith, sef math o ganolfan gymdeithasol i hybu, hyrwyddo a hwyluso’r defnydd o’r Gymraeg.
Mae llawer o fri wedi ei roi ar waith canolfannau iaith o ran addysgu’r Gymraeg i blant sy’n symud i Gymru.
Ond er bod mynd yn ddigidol wedi galluogi iddynt barhau â’r gwasanaeth a chyrraedd cynulleidfaoedd ehangach, mae’n ymddangos nad yw caffael iaith yn datblygu’r un mor gyflym wrth drochi plant yn rhithiol.
“Caffael iaith ddim mor gyflym”
“Beth sydd wedi digwydd nawr yw’r dysgu byw ‘ma.. ac mae manteision iddo fe,” eglurodd Menna Jones, Uwch-swyddog Athrawon Bro Cyngor Ceredigion.
“Ond dyw e ddim yn ateb y gwneud wyneb-yn-wyneb ‘na sy’n digwydd… yr ailadrodd a siarad gyda phobl eraill… achos ma’ fe’n ynysig iawn ti ar y sgrin ac mae plant yn enwedig yn teimlo bach yn fwy nerfus ambyti cyfrannu.
“Pan maen nhw yn y ganolfan, maen nhw’n canu, yn dawnsio, yn symud a does neb yn becso.”
Eglurodd bod y plant yn cael gwersi rhithiol gan yr athrawon bro ond hefyd yn cael mynediad at adnoddau digidol i ymarfer o fewn yr ysgol hefyd.
“Y gorau y gall fod yn y sefyllfa ‘ma.”
“Dyw’r caffael iaith ddim mor gyflym o ganlyniad,” meddai Menna Jones “ond ma’ fe’n rhywbeth… ma’ fe’r gorau y gall fod yn y sefyllfa ‘ma.”
Dywedodd bod rhai o’r manteision o ddysgu’n rhithiol yn cynnwys y gallu i gyrraedd cynulleidfaoedd ehangach, rhannu adnoddau, a chaniatáu hyblygrwydd wrth ddysgu.
Eglurodd y tîm eu bod wedi arsylwi cynnydd o ran y galw am wasanaeth canolfannau iaith dros y cyfnod ond bod hi’n anodd deall yn bendant beth yw’r rhesymeg dros hynny.
Gorfodi ysgolion i edrych yn fanylach ar anghenion
Mantais arall gafodd ei grybwyll oedd bod y cyfnod wedi darparu cyfle i ysgolion gael rôl ehangach yn y broses.
“Dydw i ddim yn orbryderus,” meddai Menna Jones, “achos beth mae’r cyfnod clo wedi gorfodi ysgolion i wneud yw cymryd cam yn ôl a gofyn y cwestiwn – beth yn union sydd angen ar y plant ‘ma?
“Efallai o’r blaen bod y cwricwlwm ysgol wedi bod mor brysur â llawn, mae wedi bod yn gyfle i ganolbwyntio ar union beth sydd ei hangen.
“Yn hynny o beth, maent wedi cael eu gorfodi i edrych yn fanylach ar anghenion eu dosbarth ac ateb y gofyn – a fi’n gobeithio y bydd hynny’n parhau.”
Sefydlu Cardi Iaith
Wrth drafod sefydlu tudalen Facebook Cardi IaIth, dywedodd Anwen Eleri, Swyddog Cefnogi’r Gymraeg Cyngor Sir Ceredigion:
“Dechreues i’r swydd gyda’r nod o hyrwyddo’r Gymraeg o fewn ysgolion mewn modd cymdeithasol ond doedd dim modd gwneud hynny wyneb-yn-wyneb, felly daeth y syniad o sefydlu Cardi Iaith.”
Mae’r dudalen yn ymroi i hyrwyddo’r Gymraeg drwy amrywiaeth o weithgareddau, megis cystadleuaeth barddoniaeth, posau, heriau a chalendr adfent sy’n cael ei agor bob bore.
Mae’r dudalen hefyd yn cynnig fideos ‘Cymraeg Cyflym’ ble gall rhieni a phlant ddysgu’r iaith gyda’i gilydd.
“Lightbulb moment”
“Mae e’n ymgais i lusgo’r Gymraeg i mewn i’r byd modern,” meddai Menna Jones.
“Yn lle bod nhw’n gweld e fel rhywbeth sydd ddim ond yn wers ffurfiol o fewn y dosbarth a dyw e ddim yn y byd go iawn.”
“Mae o fel lightbulb moment o sylweddoli bod pobl eraill yn siarad Cymraeg ac yn gwneud bywiolaeth mas o fe yn eithaf sylweddol i blant ac yn rhan o normaleiddio’r iaith.
Dywedodd Menna Jones: “Bydd ei effaith e yn llawer mwy pellgyrhaeddol. Os oes mantais i’r cyfnod clo, fi’n credu bod hwn yn un ohonyn nhw.”