Mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn nesáu at fod yn un corff “integredig”, ac mae’r argyfwng covid wedi dod ag aelodau’r sefydliad ynghyd.

Dyna ddywedodd Clare Pillman, Prif Weithredwr Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) gerbron un o bwyllgorau’r Senedd brynhawn heddiw.

Cafodd y corff ei sefydlu yn 2013 yn sgil uno tri chorff: Cyngor Cefn Gwlad Cymru, Asiantaeth yr Amgylchedd Cymru, a’r Comisiwn Coedwigaeth.

Roedd rhywfaint o feirniadaeth o’r cam ar y pryd, ac mae perfformiad CNC wedi’i feirniadu dros y blynyddoedd. Ond yn siarad heddiw dywedodd Clare Pillman bod pethau’n gwella.

“Mae’r wyth, naw, mis diwetha’ wedi dod â ni yn agosach fel sefydliad,” meddai.

“Ac mae wedi cryfhau cysylltiad pobol … dw i’n credu bod hynny wedi bod yn bwerus iawn.

“Ac mewn rhai ffyrdd mae’r heriau presennol, a’r gwaith rydym wedi’i wneud yn sgil llifogydd mis Chwefror, wedi dod â ni yn agosach ac wedi dechrau delio â rhai o’r problemau integreiddio.”

“Mae’r corff yn esblygu’n un corff amgylcheddol integredig sydd yn medru delifro newid go iawn i bobol a chymunedau Cymru,” meddai wedyn.

Aeth ati wedyn i gydnabod y bydd integreiddio llawn yn “cymryd amser”, a bod y corff yn wynebu “heriau sylweddol” yn y cyfamser – gan gynnwys cyllid.

“Esblygu a datblygu”

Yn ddiweddarach fe wnaeth aelod o’r pwyllgor awgrymu nad yw’n ddigon da bod y gwaith o integreiddio yn dal yn mynd rhagddo, a heb ei gwblhau.

“Rydym yn cymryd camau da ymlaen,” meddai Clare Pillman yn ymateb i hynny.

“Dw i’n credu bod pobol yn dod yn fwyfwy balch o weithio i CNC, ac i fod yn rhan o’r hyn rydym yn ei ddelifro ledled Cymru.

“Pe bawn i’n dweud bod y gwaith [o integreiddio] wedi’i gwblhau – wel, dw i ddim yn credu y byddai hynny’n asesiad realistig. Mae yna fwy [o waith] y mae’n yn rhaid i ni ei wneud.”

Ategodd bod “diwylliant sefydliadol” yn cymryd amser i “esblygu a datblygu”.

Cefndir: arolygon staff

Fe wnaeth arolwg yn 2016 ddangos mai dim ond 65% o staff CNC oedd â ffydd ym mhenderfyniadau uwch swyddogion y mudiad.

Dim ond 11% oedd yn dweud bod ganddyn nhw ffydd.

Dim ond 47% oedd yn dweud eu bod yn teimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi am y gwaith yr oedden nhw’n ei wneud.

Newidiwyd fformat yr arolwg yn sgil canlyniadau 2016.