Fe fydd staff iechyd a gofal cymdeithasol rheng flaen yng Nghymru, sydd heb symptomau, yn cael eu profi yn rheolaidd, gyda’r profion yn cael eu cyflwyno’r mis hwn, cyhoeddodd Vaughan Gething, y Gweinidog Iechyd.

Bydd dyfeisiau ar gyfer cynnal prawf yn cael eu darparu i bob aelod o staff iechyd a gofal cymdeithasol.

Bwriad Llywodraeth Cymru yw ei bod yn cael eu profi ddwywaith yr wythnos.

“Rwy’n falch o gyhoeddi y byddwn ni nawr yn cyflwyno rhaglen o brofion rheolaidd ar gyfer staff iechyd a gofal cymdeithasol y rheng flaen sy’n asymptomatig yn ogystal â staff eraill sy’n dod i gysylltiad â chleifion a rhai sy’n derbyn gofal cymdeithasol,” meddai Vaughan Gething.

“Mae hyn yn adeiladu ar brofion asymptomatig ar gyfer gweithwyr cartrefi gofal ag ar gyfer gweithwyr iechyd fel rhan o reoli brigiadau o achosion.

“Bydd hyn yn cael ei wneud gan ddefnyddio profion llif unffordd. Drwy brofi fel hyn mae modd cael canlyniadau o fewn 30 munud a gall unigolion gynnal y prawf arnyn nhw eu hunain.

“Er bod profion llif unffordd ychydig yn llai sensitif wrth ddod o hyd i COVID-19 na phrofion labordai RT-PCR, mae gwybodaeth wyddonol yn dangos y bydd profi yn fwy aml yn sicrhau bydd y profion yr un mor gywir â phrofion RT-PCR.

“Mae’n hanfodol bod pob un yn deall na all profi ar ei ben ei hun gael gwared ar y risgiau sy’n gysylltiedig â COVID-19 a dylai’r profion gael eu cynnal ochr yn ochr â dilyn mesurau eraill ar gyfer rheoli heintiau, fel defnyddio cyfarpar diogelu personol, cadw pellter cymdeithasol a golchi dwylo yn ofalus.

“Diogelu staff a chleifion y Gwasanaeth Iechyd Gwladol sydd wrth wraidd ein hymateb i COVID ac mae’n elfen allweddol o’n strategaeth Profi Olrhain Diogelu.”

Manylion

Bydd y rhaglen profi newydd ar gael ar gyfer staff clinigol y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (meddygon, nyrsys a gweithwyr proffesiynol perthynol i iechyd) a’r rheini sy’n gweithio mewn grwpiau risg uchel, yn ogystal â staff anghlinigol gan gynnwys porthorion, staff glanhau, staff arlwyo a gwirfoddolwyr.

Gweithwyr gofal cymdeithasol, yn cynnwys gofal cartref, archwilwyr cartrefi gofal a lleoliadau gofal eraill.

Dywedodd Vaughan Gething: “Byddwn yn dechrau cyflwyno’r rhaglen i’r grwpiau hyn o 14 Rhagfyr.

“Byddwn yn dechrau gyda’r rheini sy’n gweithio mewn gwasanaethau lle mae cryn berygl y gellid trosglwyddo’r haint, ac yn ei chyflwyno mewn lleoliadau lle nad oes cymaint o berygl ym mis Ionawr.

“Byddwn hefyd yn cyflwyno profion rheolaidd i staff asymptomatig sy’n gweithio mewn unedau cleifion mewnol mewn hosbisau a’r rheini sy’n darparu gwasanaethau hosbis yn y cartref.”