Mae cynlluniau ar gyfer adeilad newydd i ysgol gynradd cyfrwng Cymraeg yn y Trallwng wedi derbyn caniatâd cynllunio, yn ôl y cyngor sir.
Bydd Cyngor Sir Powys nawr yn mynd ati i adeiladu ysgol gyda lle i 150 o ddisgyblion, a chyfleusterau cymunedol, ar gyfer Ysgol Gymraeg y Trallwng yn y dref.
Cymeradwyodd Pwyllgor Cynllunio, Trwyddedu Tacsis a Hawliau Tramwy’r cais cynllunio heddiw (dydd Iau, Rhagfyr 3).
Mae’r prosiect i adeiladu’r ysgol yn cael ei ariannu’n rhannol gan Raglen Ysgolion ar gyfer yr 21ain Ganrif, gyda Chyngor Sir Powys yn ariannu 50 y cant o’r gost, a chaiff ei gyflawni mewn partneriaeth â Gwasanaethau Eiddo Calon Cymru.
Caiff y datblygiad ei adeiladu ar gyn-safle Ysgol Maesydre, gydag estyniad yn cael ei adeiladu a fydd yn cynnwys neuadd ysgol newydd ac ystafelloedd dosbarth.
Dywedodd y Cyngor y bydd yr ysgol yn cyfuno’r “hen a’r newydd, yr hanesyddol a’r modern”.
“Rwy’n falch dros ben ein bod wedi cael caniatâd cynllunio,” meddai’r Cynghorydd Phyl Davies, Aelod y Cabinet ar faterion Addysg ac Eiddo.
“Bydd yr ysgol newydd yn darparu cyfleusterau’r 21ain ganrif i’n dysgwyr tra’n cadw ac yn moderneiddio adeilad rhestredig gradd 2 i gymuned Y Trallwng ei ddefnyddio.
“Mae gennym strategaeth i drawsnewid addysg ym Mhowys ac mae adeilad Newydd Ysgol Gymraeg Y Trallwng yn brawf o’n hymrwymiad i gyflawni’r strategaeth bwysig hon.
“Pan fydd yn cael ei chwblhau bydd yn cynnig amgylchedd dysgu a fydd yn caniatáu i ddysgwyr a staff addysgu ffynnu a chyflawni eu potensial trwy gyfrwng y Gymraeg.”