Mae Prif Weinidog Prydain, Boris Johnson, yn paratoi ar gyfer brwydr Brexit arall yn Nhŷ’r Cyffredin yr wythnos nesaf, gyda deddfwriaeth allweddol yn ymddangos gerbron Aelodau Seneddol.

Dywedodd Arweinydd Tŷ’r Cyffredin Jacob Rees-Mogg, y bydd Bil Marchnad Fewnol y Deyrnas Unedig yn dychwelyd i’r Tŷ ar Ragfyr 7 ar ôl cyfres o golledion yn Nhŷ’r Arglwyddi.

Cafodd yr Arglwyddi wared ar bwerau dadleuol sy’n galluogi’r Llywodraeth i dorri’r cytundeb ymadael â’r Undeb Ewropeaidd – ond mae’r Llywodraeth wedi addo ailosod y cymalau hynny.

Rhan o’r feirniadaeth am y pwerau arfaethedig hynny yw bod y Llywodraeth yn ceisio eu defnyddio i fygwth torri’r Cytundeb Ymadael, a hynny fel tacteg negodi gyda’r Undeb Ewropeaidd. Mae llawer yn dadlau fod hynny’n niweidio enw da byd-eang y Deyrnas Unedig.

Ond mae gweinidogion wedi mynnu bod angen y pwerau i ddiogelu’r berthynas rhwng Prydain Fawr a Gogledd Iwerddon, er eu bod wedi cydnabod eu bod yn torri cyfraith ryngwladol.

Nod y ddeddfwriaeth, yn ôl Llywodraeth y Deyrnas Unedig, yw sicrhau y bydd masnach o fewn y Deyrnas Unedig yn gweithio ar ôl gadael y farchnad sengl ac undeb tollau’r Undeb Ewropeaidd.

Ond mae’r llywodraethau datganoledig wedi bod yn chwyrn eu beirniadaeth, gan ddweud bod y Bil yn sathru ar hanfodion datganoli, ac mae’r farn honno wedi’i hadlewyrchu yn Nhŷ’r Arglwyddi.

Cefnogodd Tŷ’r Arglwyddi gam trawsbleidiol i sicrhau bod llywodraethau Cymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon yn cael llais a phwerau wrth weithredu marchnad fewnol y Deyrnas Unedig yn y dyfodol, ar ôl i’r Deyrnas Unedig adael yr Undeb Ewropeaidd.

“Gwthio’n ôl”

Fodd bynnag, mae Mr Rees-Mogg wedi cadarnhau y bydd y Llywodraeth yn “gwthio’n ôl” ar yr holl welliannau a wnaed i’r Bil gan Arglwyddi.

Dywedodd: “Byddwn yn gwthio’n ôl yr holl welliannau a wnaed yn Nhŷ’r Arglwyddi – gan gynnwys y rhai sy’n ymwneud â Chymal 5 a sicrhau y gallwn roi buddiannau gorau’r Deyrnas Unedig gyfan yn gyntaf.”

Mae Tŷ’r Cyffredin hefyd wedi neilltuo amser i ystyried gwelliannau pellach gan yr Arglwyddi ar Ragfyr 10 – bydd angen yr amser os bydd Arglwyddi am frwydro’n ol yn erbyn y Llywodraeth.

Gofynnodd y cyn-weinidog Ceidwadol Syr Christopher Chope i Jacob Rees-Mogg ganiatáu i Dŷ’r Cyffredin “eistedd tan Noswyl Nadolig” i drafod yr holl faterion pwysig.

Nid yw Mr Rees-Mogg wedi cyhoeddi dyddiadau egwyl y Nadolig eto, ond nododd: “Gallaf sicrhau’r Tŷ na fyddwn yn eistedd ar Ddydd Nadolig!”

Cefndir y Bil o ran Gogledd Iwerddon

Mae’r Cytundeb Ymadael yn cynnwys adran – neu brotocol – ar Ogledd Iwerddon, ac mae bellach yn gytundeb rhyngwladol.

Dywed Erthygl 4 o’r cytundeb fod darpariaethau’r cytundeb yn cael blaenoriaeth gyfreithiol dros unrhyw beth yng nghyfraith ddomestig y Deyrnas Unedig.

Felly, os bydd unrhyw un o’r cynigion ym Mil y Farchnad Fewnol sy’n gwrthddweud y Cytundeb Ymadael yn dod yn gyfraith, byddai’n torri rhwymedigaethau rhyngwladol y Llywodraeth.

Dyna’r hyn y cyfeiriodd Brandon Lewis, Ysgrifennydd Gogledd Iwerddon, ato ym mis Medi pan siaradodd am dorri cyfraith ryngwladol mewn “ffordd benodol a chyfyngedig iawn”.

Nod protocol Gogledd Iwerddon yn gyffredinol oedd osgoi dychwelyd at ffin “galed” rhwng Gogledd Iwerddon yn y Deyrnas Unedig a Gweriniaeth Iwerddon yn yr Undeb Ewropeaidd.

Mae’r protocol yn nodi y byddai’n rhaid i gwmnïau sy’n symud nwyddau o Ogledd Iwerddon i wledydd Prydain (Cymru, Lloegr a’r Alban) lenwi ffurflenni datganiad allforio.

Ond byddai Bil y Farchnad Fewnol yn rhoi’r hawl i weinidogion anwybyddu’r rhan hon o gyfraith dollau’r Undeb Ewropeaidd.

Dywed rhan arall o’r protocol fod yn rhaid i’r Deyrnas Unedig ddilyn rheolau’r Undeb Ewropeaidd ar gymorth gwladwriaethol – y cymorth ariannol mae llywodraethau’n ei roi i fusnesau – ar gyfer nwyddau sy’n gysylltiedig â Gogledd Iwerddon.

Ond byddai Bil y Farchnad Fewnol yn rhoi pŵer i weinidogion ddehongli’r hyn y mae hynny’n ei olygu ac yn dweud na ddylid gwneud hyn yn unol â chyfraith achos Llys Cyfiawnder Ewrop.

Unwaith eto, mae hynny’n golygu fod y Deyrnas Unedig yn mynd yn groes i’r cytundeb rhyngwladol a lofnodwyd y llynedd.

Mae Gweinidog Materion Tramor Iwerddon, Simon Coveney, wedi dweud y byddai gwthio cynlluniau i ddiystyru elfennau o’r cytundeb Brexit yn “fethiant gwleidyddol a diplomyddol enfawr”.

Gallwch ddarllen mwy ar oblygiadau Bil y Farchnad Fewnol o ran datganoli isod: