Mae Wayne Pivac, Prif Hyfforddwr Cymru, wedi enwi’i dîm i wynebu’r Eidal ym Mharc y Scarlets brynhawn dydd Sadwrn, Rhagfyr 5.
Bydd y bachwr Sam Parry yn dechrau yng nghrys coch Cymru am y tro cyntaf – enillodd ei gap cyntaf oddi ar y fainc mewn gêm gyfeillgar yn erbyn Ffrainc.
Mae’r chwaraewr profiadol George North hefyd yn dychwelyd i’r garfan ar ôl cael ei ryddhau i chwarae i’w ranbarth yn ddiweddar.
Bydd yn ymuno â Johnny Williams ynghanol cae yn hytrach nag yn ei safle arferol ar yr asgell.
Daw’r cyhoeddiad tîm ddiwrnod yn gynharach na’r disgwyl.
Ar ôl colli i Iwerddon a churo Georgia cafodd ymgyrch siomedig Cymru yng Nghwpan Cenhedloedd yr Hydref ergyd pellach y penwythnos diwethaf ar ôl colli yn erbyn Lloegr.
Bydd Cymru yn cystadlu gyda’r Eidal am y pumed safle yn y gystadleuaeth.
‘Cyfle arall i barhau i adeiladu’
“Mae dydd Sadwrn yn gyfle arall i’r chwaraewyr yma ac i ni fel carfan i barhau i adeiladu,” meddai’r prif hyfforddwr Wayne Pivac.
“Rydym wedi rhoi wyth cap newydd yn ystod yr ymgyrch ac mae’n bwysig erbyn diwedd y gêm y bydd pob un ohonynt wedi cael mwy nag un ymddangosiad.
“O’r cychwyn cyntaf roeddem am i’r ymgyrch yma fod yn gyfle i chwaraewyr ac rydym wedi gwneud hynny.
“Mae’r gwaith caled yn talu ei ffordd ac rydyn ni eisiau dangos hynny eto ddydd Sadwrn a gorffen yr ymgyrch ar nodyn uchel.”
Tîm Cymru
Olwyr: 15. Liam Williams, 14. Josh Adams, 13. George North , 12. Johnny Williams, 11. Louis Rees-Zammit, 10. Callum Sheedy, 9. Kieran Hardy
Blaenwyr: 1. Nicky Smith, 2. Sam Parry, 3. Tomas Francis, 4. Will Rowland, 5. Alun Wyn Jones (C), 6. James Botham, 7. Justin Tipuric, 8. Taulupe Faletau
Eilyddion: 16. Elliot Dee, 17. Wyn Jones, 18. Leon Brown, 19. Cory Hill, 20. Aaron Wainwright, 21. Gareth Davies, 22. Ioan Lloyd, 23. Jonah Holmes
Darllen mwy: