Dydy’r cyfnod byr rhwng gemau ddim yn poeni Steve Cooper, rheolwr tîm pêl-droed Abertawe, wrth iddyn nhw deithio i herio Middlesbrough yn y Bencampwriaeth heno (nos Fercher, Rhagfyr 2).

Daw’r gêm ddyddiau’n unig ar ôl iddyn nhw guro Nottingham Forest brynhawn dydd Sul (Tachwedd 29).

Mae’r Elyrch yn chweched, ddau bwynt yn unig y tu ôl i Norwich ar y brig.

Mae eu gwrthwynebwyr wedi cael diwrnod ychwanegol i baratoi ar ôl chwarae ddydd Sadwrn (Tachwedd 28).

Ond fydd Steve Cooper ddim yn defnyddio hynny fel esgus, meddai.

“Roedd Forest yn ddiwrnod da, does dim amheuaeth am hynny, ond mae’n rhaid i ni roi’r hyn ddigwyddodd o’r neilltu a symud ymlaen, a pharatoi ar gyfer y gêm nesaf.

“Mae’n gyfnod byr ac yn un sydd heb fod yn rhy garedig â ni, wrth chwarae timau sydd wedi cael diwrnod ychwanegol i orffwys.

“Mae hynny’n anodd yn yr amserlen yma beth bynnag.

“Ond dydyn ni ddim yn mynd i gwyno am y peth, rydyn ni am fwrw iddi a pheidio â gadael i’r peth effeithio arnon ni.”

Herio Neil Warnock

Mae Middlesbrough wedi colli dwy o’u tair gêm ddiwethaf o dan Neil Warnock, cyn-reolwr Caerdydd, a hynny ar ôl rhediad o ddeg o gemau’n ddi-guro oedd wedi eu codi nhw i’r safleoedd ail gyfle.

Dim ond naw gôl maen nhw wedi’u hildio mewn 14 o gemau – dim ond yr Elyrch sydd wedi ildio llai yn y gynghrair.

“Rydyn ni’n parchu’r hyn rydyn ni am ei wynebu a’r rheolwyr sy’n hyfforddi’r timau; rhaid i chi wneud hynny,” meddai Steve Cooper.

“Ond ein syniad ni yw’r hyn rydyn ni’n dod â fe i bob gêm, a fydd hynny ddim yn wahanol.

“Rhaid i chi gydnabod yr hyn mae Neil wedi’i wneud yn y gêm, ei hirhoedledd a nifer y dyrchafiadau.

“Rydyn ni’n dadansoddi pob gêm yr un fath ac yn edrych ar sut mae timau’n chwarae, beth yw eu cryfderau a’u gwendidau.

“Does gyda ni ddim byd ond parch at hynny, ond rhaid i ni roi trefn arnon ni ein hunain wedyn a cheisio rhoi’r cynllun gorau at ei gilydd gyda’r syniad o’r hyn fyddwn ni’n ei wneud bwysicaf.

“Dw i’n gwybod eu bod nhw wedi cael eu curo yn Huddersfield, ond maen nhw’n chwarae’n dda ar y cyfan, a bydd hi’n gêm anodd eto.”