Jamie Jones yw’r unig Gymro sy’n dal ym Mhencampwriaeth Snwcer Prydain ar ôl cyrraedd yr 16 olaf.

Fe wnaeth e guro Alexander Ursenbacher – sydd eisoes wedi curo Ronnie O’Sullivan – o chwe ffrâm i bedair.

Mae ei wrthwynebydd yn y rownd nesaf, Joe Perry, ymhlith y ffefrynnau i gyrraedd y rownd gyn-derfynol bellach.

Mae Jones yn gobeithio am lwyddiant ar ôl parhau i ddychwelyd i’w orau ers iddo gael ei wahardd am flwyddyn am ei ran mewn trefnu canlyniadau gemau.

Aeth Cymro arall, Mark Williams, allan ar ôl colli o chwe ffrâm i bump yn erbyn y Sais Ricky Walden.

Roedd Williams ar ei hôl hi o bum ffrâm i ddwy cyn unioni’r sgôr, ond cipiodd Walden y ffrâm dyngedfennol gyda rhediad o 55.