Daeth Altrincham â rhediad di-guro Wrecsam i ben neithiwr (nos Fawrth, Rhagfyr 1), wrth iddyn nhw ennill o 1-0 ar y Cae Ras.

Maen nhw’n symud i fyny i’r pedwerydd safle yn y Gynghrair Genedlaethol ar ôl i Wrecsam golli ar ôl enill pum gêm o’r bron.

Dechreuodd Wrecsam yn gryf, ac fe gawson nhw sawl cyfle cynnar i fynd ar y blaen cyn i Altrincham gryfhau tua diwedd yr hanner cyntaf.

Daeth unig gôl y gêm wrth i gic gornel Matty Kosylo ddarganfod yr amddiffynnwr Ritchie Sutton, a beniodd y bêl i’r rhwyd.

Daeth cyfle cynnar i Kosylo yn yr ail hanner, ac fe wnaeth Joel Senior orfodi Christian Dibble i wneud arbediad campus.

Daeth ergyd hwyr gan Elliott Durrell ar ôl i’r golwr Tony Thompson arbed ergyd gan Kwame Thomas.