Bu’n rhaid i dîm pêl-droed Casnewydd fodloni ar bwynt yn Forest Green neithiwr (nos Fawrth, Rhagfyr 2), wrth iddyn nhw orffen yn gyfartal 1-1.

Mae’r Alltudion yn dal ar frig yr Ail Adran.

Aethon nhw ar y blaen gyda chic o’r smotyn gan Tristan Abrahams, cyn i Jamille Matt unioni’r sgôr i Forest Green yn erbyn ei hen glwb yn yr ail hanner.

Pwynt yn dderbyniol – ond Mike Flynn wedi cael siom

Ar ôl y gêm, dywedodd Mike Flynn, rheolwr Casnewydd, y byddai pwynt wedi bod yn derbyniol cyn y gêm ond ei fod e wedi siomi yn y pen draw.

“A fydden ni wedi derbyn gêm gyfartal cyn y gic gyntaf? Fwy na thebyg – ond rydyn ni wedi siomi erbyn hyn.

“Rydyn ni wedi dod yma ac wedi gweithio’n eithriadol o galed ac wedi cael pwynt, ond rydyn ni wedi siomi o beidio â mynd adref â’r triphwynt i gyd.

“Wedi dweud hynny, maen nhw’n dîm da ac fe fyddan nhw’n rhoi crasfa go iawn i rywun – wedi dweud hynny, byddwn ni [yn gwneud hynny] hefyd.

“Cawson ni’r cyfleoedd gorau a dylen ni fod wedi gwneud yn well gyda rhai o’n hergydion â’r pen o flaen y gôl ond mae’n bwynt da.”