Sgoriodd Kieffer Moore ddwy gôl neithiwr (nos Fawrth, Rhagfyr 1) wrth i Gaerdydd drechu Huddersfield o 3-0 yn Stadiwm Dinas Caerdydd.

Dyma ail fuddugoliaeth yr Adar Gleision mewn pedwar diwrnod, ac roedd y rheolwr Neil Harris yn llawn canmoliaeth ar gyfer ymosodwr Cymru.

Mae Moore bellach wedi sgorio pedair gôl mewn pedair gêm a sgoriodd Robert Glatzel hefyd.

Daeth ei gôl gyntaf wrth iddo orffen yn syml ag ochr ei droed, a daeth ei ail yn dilyn camgymeriad amddiffynnol gan Naby Sarr.

Rhwydodd yr eilydd Glatzel yn hwyr yn y gêm.

‘Bwlio’r amddiffynwyr canol’

Ar ôl y gêm, dywedodd Neil Harris fod Kieffer Moore “wedi bwlio’r amddifynwyr canol am 75 munud”.

“Mae e’n edrych fel cryn gaffaeliad i’r clwb,” meddai.

“Roedd e’n achosi anhawster yn yr awyr, mae’n gyflym wrth redeg i lawr yr ystlys, ac mae’n gofalu am y bêl i ni ac yn sgorio goliau ar hyn o bryd.

“Mae e’n gwneud bywyd yn anodd iawn i’r gwrthwynebwyr.”