Mae merched Cymru wedi colli allan ar le yng nghystadleuaeth bêl-droed Ewro 2022 er iddyn nhw guro Belarws o 3-0 yng Nghasnewydd neithiwr (nos Fawrth, Rhagfyr 1).

Yn ôl y rheolwr Jayne Ludlow, roedd methu â churo Gogledd Iwerddon wedi costio’n ddrud i’r tîm, wrth iddyn nhw sicrhau lle yn y gemau ail gyfle drwy orffen yn ail y tu ôl i Norwy.

Collodd Cymru allan ar le yn y gystadleuaeth yn sgil canlyniadau cyfatebol yn erbyn ei gilydd, er iddyn nhw ennill yr un nifer o bwyntiau yn ystod yr ymgyrch.

Pan chwaraeodd Cymru yn erbyn Gogledd Iwerddon, sgorion nhw ddwy gôl oddi cartref yn erbyn Cymru, tra bo’r gêm gyfatebol wedi gorffen yn gyfartal ddi-sgôr, sy’n golygu nad oedd gan Gymru goliau oddi cartref o gymharu â dwy Gogledd Iwerddon.

“Yn amlwg, dyna’r gemau sydd wedi costio’n ddrud i ni,” meddai Jayne Ludlow.

“Enillon ni’r bedair arall ac roedd y gemau yn erbyn Norwy bob amser am fod yn anodd.

“Roedd yn fater o le’r oedden ni, a oedden ni’n gallu cystadlu â nhw?

“O edrych yn ôl, roedden ni’n arbennig o siomedig gyda’r gêm gartref yn erbyn Gogledd Iwerddon nad oedden ni wedi dod i ffwrdd â’r triphwynt.

“Pan edrychwch chi ar y grŵp, rydyn ni wedi ennill pedair, dod yn gyfartal mewn dwy ac wedi colli dwy.

“Y peth da yw ein bod ni’n dod yn nes at y timau hynny ar lefel uchel yn yr ystyr mai 1-0 oedd hi ddwywaith.

“Rydyn ni wedi dod yn agos, ond rydyn ni’n sylweddoli na allwn ni wneud camgymeriadau wrth symud ymlaen.”