Mae Cymdeithas Bêl-droed Cymru wedi enwebu’r Athro Laura McAllister i fod yn gynrychiolydd benywaidd UEFA ar Gyngor FIFA.

Pe bai’n cael ei phenodi, hi fyddai’r aelod benywaidd cyntaf ar Gyngor FIFA sydd hefyd wedi chwarae’r gêm ar lefel ryngwladol.

Enillodd 24 o gapiau rhwng 1994 a 2001, ac mae hefyd yn gyn-Gapten ar Gymru.

Disgwylir i aelodau Ewropeaidd Cyngor FIFA gael eu hethol fis Mawrth nesaf.

‘Cyfle arbennig o gyffrous’

“Mae’r cyfle i sefyll ar gyfer etholiad Cyngor FIFA yn her arbennig o gyffrous ac yn un rwy’n edrych ymlaen ati’n fawr,” meddai Laura McAllister.

“Gobeithio y bydd fy mhrofiad a’m harbenigedd o’r gêm a’i llywodraethu yn bodloni cydweithwyr ledled Ewrop mai fi fydd yr ymgeisydd gorau i’w cynrychioli ar gyngor corff llywodraethu pêl-droed y byd.”

Ar hyn o bryd mae’n gweithio fel Athro Polisi Cyhoeddus yng Nghanolfan Llywodraethiant Cymru ym Mhrifysgol Caerdydd.

Mae wedi gwasanaethu fel Cyfarwyddwr ac Is-gadeirydd Bwrdd Ymddiriedolaeth Cymdeithas Bêl-droed Cymru ers dros 12 mlynedd.

Ers 2016 mae hefyd wedi bod yn ddirprwy gadeirydd Pwyllgor Pêl-droed Menywod UEFA.

Cyn hynny bu’n Gadeirydd Chwaraeon Cymru rhwng 2010 a 2016 ac mae hefyd wedi bod yn aelod o fwrdd UK Sport.