Bydd Stephen Varney, sydd wedi’i eni a’i fagu yng Nghymru, yn dechrau ei Brawf cyntaf i’r Eidal yng Nghwpan y Cenhedloedd ddydd Sadwrn (Rhagfyr 5) yn erbyn Cymru.
Mae Stephen yn hanu o bentrefan Rhos-hill, ychydig filltiroedd i’r de o Aberteifi.
Mynychodd Ysgol y Preseli, yng Nghrymych, gan ennill Cwpan Dan-16 Ysgolion Cymru gyda nhw yn 2017.
Ac mae’n fab i gyn-chwaraewr Castell-nedd, Adrian Varney.
Ei enw llawn yw Stephen Lorenzo Varney – ac mae’n gymwys i’r Eidal drwy ei fam, Valeria. Ganed Valeria yng ngorllewin Cymru, ond ganed ei rhieni hi yn yr Eidal.
Fe wnaeth Varney, 19, ymddangos oddi ar y fainc yng Nghwpan y Cenhedloedd yn erbyn yr Alban fis diwethaf.
Ond bydd nawr yn dechrau yn erbyn Cymru yn Llanelli pan fydd y ddwy wlad yn herio ei gilydd yn yr hydref.
Yn wir, mae wedi ennill gwobr seren-y-gêm yn erbyn Cymru eisoes, ym muddugoliaeth 17-7 yr Azzurri yn y Chwe Gwlad dan-20 ym Mae Colwyn ym mis Ionawr eleni.
Mae Cymru a’r Eidal yn chwarae am y pumed safle yng Nghwpan y Cenhedloedd, sy’n dod i ben yn Twickenham ddydd Sul (Rhagfyr 6) gyda’r rownd derfynol rhwng Lloegr a Ffrainc.
“Rydyn ni eisiau dod â’r twrnament i ben yn y ffordd orau bosibl,” meddai Franco Smith, hyfforddwr yr Eidal, wrth wefan Ffederasiwn Rygbi’r Eidal.
“Mae Cymru’n dîm profiadol … rhaid ini ganolbwyntio ar ein perfformiad.”