Mae sefyllfa ariannol yr Urdd yn “drueni” ac mae Llywodraeth Cymru yn agored i’r syniad o roi rhagor o gymorth ariannol i’r corff yn y dyfodol.

Daeth sylwadau Gweinidog y Gymraeg, Eluned Morgan, wrth ateb cwestiynau gan Aelodau o’r Senedd yn siambr y Senedd brynhawn heddiw.

Mi ohiriwyd Eisteddfod yr Urdd eleni, a ddoe cyhoeddwyd y bydd eu heisteddfod yn Sir Ddinbych flwyddyn nesa’ yn cael ei ohirio yn sgil pandemig y coronafeirws.

Mae’r corff wedi derbyn £3.1m oddi wrth y Llywodraeth, ond maen nhw’n dweud eu bod wedi colli £14m hyd yma – gan arwain at dorri hanner eu staff (tan fod gweithgarwch yn ailgychwyn).

“Dw i yn ymwybodol iawn o’r trafferthion mae’r Urdd ynddyn nhw,” meddai Eluned Morgan wrth ateb cwestiwn gan Siân Gwenllian AoS.

“Beth sy’n drueni mawr yw, wrth gwrs, mae’r Urdd wedi gwneud popeth r’yn ni wedi gofyn iddyn nhw wneud dros y blynyddoedd i stopio fod yn ddibynnol ar arian y Llywodraeth.

“Maen nhw wedi mynd ati. Maen nhw’n gwybod sut i hel arian, ond jest ddim yng nghanol cyfnod coronafeirws.

“Dyna pam r’yn ni eisoes, fel y’ch chi wedi crybwyll, wedi rhoi arian mawr iddyn nhw i’w helpu trwy’r cyfnod anodd yma.

“Ond wrth gwrs mae dal cyfnod anodd i ddod.

“A dyna pam mae’n drueni bod nhw wedi gorfod, unwaith eto, canslo Eisteddfod yr Urdd.

“Ond os dw i’n gwybod ffordd mae’r Urdd yn gweithio, mi wnawn nhw greu rhywbeth hollol newydd fydd yn codi ysbryd y genedl yn ystod cyfnod maen nhw fel arfer yn cynnal Eisteddfod yr Urdd.

“Ac wrth gwrs wnawn ni gadw’n meddyliau ar agor o ran beth sy’n bosibl o ran help ymarferol yn y dyfodol.”