Mae pôl piniwn newydd wedi awgrymu bod cefnogaeth dros annibyniaeth i’r Alban ar 56% a bod yr SNP yn debygol o ennill mwyafrif yn etholiad Senedd yr Alban y flwyddyn nesaf.

Canfu pôl piniwn Ipsos MORI, bod 56% o’r rhai fyddai’n debygol o bleidleisio mewn refferendwm yn dweud y byddent yn pleidleisio dros Ie gyda 44% yn dweud y byddent yn pleidleisio dros Na.

Fodd bynnag, dywedodd chwarter yr Albanwyr a holwyd nad oedd ganddynt farn gwbl bendant ynghylch a ddylai’r Alban fod yn wlad annibynnol neu barhau i fod yn rhan o’r Deyrnas Unedig.

Ar raddfa o un i 10, lle roedd un yn gefnogaeth lwyr i annibyniaeth a 10 yn gefnogaeth lwyr i’r undeb, rhoddodd 25% eu hunain rhwng tri ac wyth.

Hefyd, canfu’r arolwg fod 55% yn cefnogi’r SNP yn y bleidlais etholaethol ar gyfer etholiad y flwyddyn nesaf a 47% yn y bleidlais ar y rhestr ranbarthol.

Ceidwadwyr yr Alban oedd y blaid uchaf nesaf, gyda 22% yn y pleidleisiau ar y rhestr etholaethol a rhanbarthol.

Roedd Llafur yr Alban ar 14% yn y bleidlais etholaethol ac 16% yn y bleidlais ar y rhestr ranbarthol.

Cafodd cyfanswm o 1,006 o oedolion yn yr Alban eu cyfweld dros y ffôn rhwng Tachwedd 20 a 26 ar gyfer y pôl piniwn.

Wrth ymateb i’r pôl piniwn, dywedodd dirprwy arweinydd yr SNP, Keith Brown: “Pandemig Covid-19 yw argyfwng iechyd cyhoeddus mwyaf ein hoes – ond gallwn weld golau ym mhen draw’r twnnel a bydd y Llywodraeth SNP hon yn parhau i weithio’n galed i ailadeiladu ac adfer o’r argyfwng.

“Wrth i ni ailadeiladu o’r pandemig hwn, Llywodraeth yr Alban, a etholwyd gan bobol yr Alban, ac sy’n blaenoriaethu buddiannau’r Alban, ddylai fod yn arwain ein hadferiad – nid Llywodraethau San Steffan, dan arweiniad Boris Johnson.”

Dywedodd llefarydd ar ran Ceidwadwyr yr Alban: “Mae’r arolwg barn hwn yn dangos unwaith eto mai dim ond Ceidwadwyr yr Alban sydd â’r cryfder i wrthwynebu’r SNP.

“Er bod yr SNP yn canolbwyntio ar rannu’r wlad gydag ail refferendwm annibyniaeth, blaenoriaethau Ceidwadwyr yr Alban yw ailadeiladu economi’r Alban, brwydro’r pandemig, diogelu swyddi, gwella ysgolion ac adfer grym i gymunedau lleol.”