Hyd yma, mae tri chwmni wedi rhannu data am eu brechlynnau, ac mae dau ohonyn nhw yn dal i aros am sêl bendith rheoleiddiwr y Deyrnas Unedig.

Mae brechlyn Moderna yn 94% effeithiol ac mae Llywodraeth San Steffan wedi archebu 7m dos.

Mae effeithioldeb Rhydychen/AstraZeneca rhwng 62% a 90%, ac mae 100m dos wedi’u harchebu.

Mae brechlyn Pfizer, sydd hyd at 95% effeithiol, bellach wedi cael ei gymeradwyo ac mi fydd “y gwaith o’i gyflwyno ledled Cymru yn dechrau ymhen dyddiau”, yn ôl Llywodraeth Cymru.

Mae gwledydd Prydain ymhlith y rhai cyntaf yn y byd i roi sêl bendith i frechlyn Pfizer/BioNTech, ac mae eisoes ganddi 40m dos sy’n ddigon i frechu 20m o bobol.

Mi fydd Cymru yn derbyn canran o’r brechlynnau yma, a bellach mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi sut y bydd yn mynd ati i’w cyflwyno ledled y wlad.

“Tywys at y brechlyn”

Heddiw, dywedodd Dr Gill Richardson, cyd-gadeirydd Bwrdd Rhaglen Frechu Covid-19, y byddai pobl sy’n byw yng Nghymru yn cael eu “tywys at y brechlyn” yn yr wythnos gyntaf o gyflwyno imiwneiddio.

Mae holl sefydliadau’r GIG yng Nghymru wedi cynnal ymarferion i brofi trefniadau dosbarthu a storio’r wlad.

Mae’r rhain yn cynnwys profion a gynhaliwyd ar 26 Tachwedd a 12 Tachwedd a oedd yn cynnwys swyddogion priodol o’r saith bwrdd iechyd, ynghyd â phartneriaid ac arweinwyr fferylliaeth allweddol.

“Roedd gwaith cynnal a chadw’r gadwyn oer yn cael ei gynnal drwy gydol yr ymarfer dosbarthu heb unrhyw deithiau tymheredd nac oedi,” meddai’r Gweinidog Iechyd Vaughan Gething.

“Derbyniwyd yr holl ddanfoniadau yn y lleoliadau cywir a chofnodwyd derbyn danfoniadau yn electronig ar System Imiwneiddio Cymru.

“Mae Cymru’n barod i ddefnyddio’r brechlyn fesul cam, gan ddechrau gyda safleoedd ysbytai ac yna lleoliadau cymunedol.”

Dywedodd Dr Gill Richardson “Byddwn yn blaenoriaethu’r rhai y gallwn ddarparu brechlyn effeithiol iddynt yn ddiogel.”

“Ac yna wrth i ni ddysgu mwy am y brechlyn – ac rydyn ni i gyd yn dysgu ar draws y Deyrnas Unedig – y gobaith mawr yw y gellir datblygu model symudol fel y gallwn ddarparu i gartrefi gofal yn ddiogel heb roi preswylwyr cartrefi gofal mewn perygl drwy fynd â nhw i ganolfan yn ddiangen.”

Y drefn

Mae’r cyhoedd yn cael eu hannog i aros i gael eu gwahodd, yn hytrach na gofyn i’w fferyllydd neu eu meddyg.

Caiff apwyntiadau awtomatig eu hanfon at bobl yng Nghymru yn manylu ar y lleoliad lle byddant yn cael y brechiad.

Ni fydd y brechlyn yn orfodol a bydd pobl yn gallu dewis a ydynt yn ei gymryd ai peidio, gyda gwybodaeth yn cael ei darparu cyn brechu.

Bydd y rhai sy’n cael y brechlyn yn cael cerdyn imiwneiddio GIG Cymru a fydd ag enw a rhif dosbarthu’r brechlyn a’r dyddiad imiwneiddio.

Bydd y rhain yn nodyn atgoffa ar gyfer yr ail ddos ac am y math o frechlyn, yn ogystal â rhoi gwybodaeth am sut i gofnodi sgil-effeithiau.

Darllen mwy