Mae brechlyn Covid bellach wedi cael ei gymeradwyo, ac mi fydd “y gwaith o’i gyflwyno ledled Cymru yn dechrau ymhen dyddiau”, yn ôl Llywodraeth Cymru.

Mae gwledydd Prydain ymhlith y rhai cyntaf yn y byd i roi sêl bendith i frechlyn Pfizer/BioNTech, ac mae eisoes ganddi 40m dos sy’n ddigon i frechu 20m o bobol.

Mi fydd Cymru yn derbyn canran o’r brechlynnau yma, a bellach mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi sut y bydd yn mynd ati i’w cyflwyno ledled y wlad.

Mi fydd pobol dros 80 oed, staff a phreswylwyr cartrefi gofal, a’r rheiny sydd yn gweithio ym meysydd iechyd a gofal cymdeithasol, yn cael eu blaenoriaethu yn gyntaf.

Mae’r brechlyn yn 95% effeithiol yn ôl data ond yn ôl Llywodraeth Cymru, fydd y cyhoedd ddim yn cael eu gorfodi i’w dderbyn.

“Y Golau gwyrdd”

Mae Dr Frank Atherton, Prif Swyddog Meddygol Cymru, wedi dweud bod y Gwasanaeth Iechyd yn barod i gyflwyno’r brechlyn, ac mae wedi croesawu’r newyddion.

“Mae’n wych gallu dweud o’r diwedd bod y brechlyn COVID-19 cyntaf wedi cael y golau gwyrdd,” meddai.

“Rydyn ni nawr yn gwybod fod gennym ni frechlyn diogel ac effeithiol i’w ddefnyddio ar draws y Deyrnas Unedig.

“Dyma’r newyddion cadarnhaol rydw i a chynifer o bobl eraill ar draws y wlad wedi bod yn aros amdano.”

“Llygedyn o obaith”

Mae’r prif weinidog Mark Drakeford yn pwysleisio’r angen i ddal ati i ddilyn rheolau pellter cymdeithasol, ond mae hefyd wedi rhoi croeso cynnes i’r cyhoeddiad.

“Mae’r newyddion heddiw yn llygedyn o obaith ar ben draw twnnel hir a thywyll,” meddai.

“Rydyn ni’n gwybod bod rhai aelodau o’n cymunedau mewn llawer mwy o berygl nag eraill o ddioddef cymhlethdodau difrifol yn sgil COVID-19.

“Felly ein blaenoriaeth fydd eu hamddiffyn nhw i ddechrau.”