Mae Bonmarché, y gadwyn o siopau dillad menywod, yn nwylo’r gweinyddwyr am yr ail waith mewn ychydig dros flwyddyn.
Mae lle i gredu bod mwy na 1,500 o swyddi yn y fantol.
Mae llu o siopau Bonmarche yn ne Cymru, a sawl un yn y gogledd.
Mae RSM Restructuring Advisory wedi cael eu penodi i weinyddu, ac maen nhw’n dweud y bydd pob un o’r 225 o siopau yn aros ar agor ac nad yw swyddi wedi cael eu torri eto.
Eu gobaith yw cytuno ar becyn i achub y cwmni.
Cefndir
Aeth Bonmarché i ddwylo’r gweinyddwyr am y tro cyntaf fis Hydref y llynedd cyn i Peacocks gamu i’r adwy.
Er gwaetha’r cytundeb, cafodd 30 o siopau eu cau cyn y Nadolig.
Mae’r gweinyddwyr yn disgwyl y bydd cryn ddiddordeb yn y cwmni.