Mae Donald Trump, Arlywydd yr Unol Daleithiau, wedi awgrymu y bydd yn ymgeisio am yr Arlywyddiaeth eto yn 2024.

Fe wnaeth y datganid wrth gynnal parti Nadolig yn y Tŷ Gwyn neithiwr (nos Fawrth, Rhagfyr 1).

Y gred yw y gallai lansio’i ymgyrch ar y diwrnod y bydd Joe Biden yn tyngu llw i ddod yn Arlywydd yn swyddogol.

“Mae wedi bod yn bedair blynedd anhygoel,” meddai Donald Trump wrth y dorf, a oedd yn cynnwys llawer o aelodau o Bwyllgor Cenedlaethol y Gweriniaethwyr.

“Rydyn ni’n ceisio sicrhau pedair blynedd arall. Fel arall, fe welaf i chi ymhen pedair blynedd.”

Cafodd y fideo o ymddangosiad yr Arlywydd ei ffrydio’n fyw ar Facebook gan Pam Pollard, cyn-Gadeirydd y Blaid Weriniaethol yn Oklahoma.

Doedd nifer o’r bobol yn y fideo ddim yn gwisgo mygydau.

Dechreuodd yr Arlywydd a’i deulu gynnal derbyniadau Nadolig yr wythnos hon, gyda’r bwriad o ddathlu un tymor Nadolig olaf cyn i Donald Trump adael ei swydd ar Ionawr 20.

Yn ôl negeseuon ar y cyfryngau cymdeithasol, mae’r digwyddiadau wedi cynnwys torfeydd mawr o bobol nad ydyn nhw’n aml yn gwisgo mygydau, gan dorri’r canllawiau iechyd cyhoeddus y mae llywodraeth yr Unol Daleithiau wedi pwyso ar y wlad i’w dilyn dros y Nadolig.

Yn y fideo, mae modd clywed Donald Trump yn parhau i wneud honiadau o dwyll etholiadol i esbonio buddugoliaeth Joe Biden.

Fodd bynnag, dywed William Barr, ei dwrnai cyffredinol, nad yw’r Adran Gyfiawnder wedi datgelu tystiolaeth o dwyll pleidleisio eang ac nad yw wedi gweld unrhyw beth a fyddai’n newid canlyniad yr etholiad arlywyddol.

“Mae’n sicr yn flwyddyn anarferol,” meddai Donald Trump.

“Enillon ni’r etholiad. Ond dydyn nhw ddim yn hoffi hynny.”