Mae “cyfle wedi ei golli yn ystod y tymor Senedd yma” i chwyldroi pethau ym Mae Caerdydd a rhoi ysgytwad go-lew i’r cwch, yn ôl Cadeirydd Cymdeithas Diwygio Etholiadol (Electoral Reform Society – ERS) Cymru.

Mi fydd pobol 16 ac 17 oed yn medru pleidleisio am y tro cyntaf yn etholiad Senedd mis Mai, ac mae Jess Blair, prif swyddog ERS Cymru yn croesawu hynny’n llwyr.