Ers blynyddoedd, mae John Dixon wedi bod yn brwydro yn erbyn y syniad bod economi Llywodraeth fel economi cadw tŷ. Twyll, meddai o, ydi’r honiad fod rhaid talu’r ddyled gyhoeddus yn ôl ar unwaith, gan mai i’r Llywodraeth ei hun y mae llawer o’r ddyled honno. Wedi datganiad gwario’r Canghellor, efo’r bygythiad o ragor o gyni, mae’n dadlau’n fwy pendant fyth…