A hithau’n unfed awr ar ddeg ar y trafodaethau masnach rhwng yr Undeb Ewropeaidd a Llywodraeth San Steffan, mae’r Economegydd Dr Edward Jones yn trafod sut mae’r gwynt yn chwythu o ran taro bargen funud olaf…
Mae amaethyddiaeth yng ngwaed Edward Jones ac yn 2015 fe ddychwelodd i’w filltir sgwâr ar Ynys Môn, i gychwyn ar ei swydd bresennol yn Ddarlithydd Economeg yn Ysgol Fusnes Prifysgol Bangor.
Fe aeth ati i adnewyddu tŷ fferm ei hen nain a thaid, y bedwaredd genhedlaeth o’i deulu i fyw yno.
Ddechrau’r wythnos, doedd yr economegydd sydd wedi ailafael mewn ffermio cig coch yn rhan amser “ddim yn disgwyl gormod” o’r trafodaethau.
“Yn sicr mae’r economi am gael ei tharo yn galed gan Brecsit, a dw i’n gwybod fod yna gyhoeddiad mawr ella’r wythnos yma am gytundeb masnach posib rhwng Prydain a’r Undeb Ewropeaidd,” meddai ar ôl bod yn gwrando ar y newyddion Gwyddelig.
Cyn dychwelyd i Gymru, roedd gan Edward Jones yrfa lwyddiannus ym myd bancio yn Iwerddon.
“I fod yn onest, dw i ddim yn disgwyl llawer – mae gwneud cytundeb masnach lawn yn cymryd peth amser … ond cawn weld. Y broblem ydi – mae unrhyw fath o gytundeb masnach [yn mynd i gynnwys] yr un heriau [o ran] y cynnydd mewn gwaith papur i bobol sydd eisio gwerthu i’r Undeb Ewropeaidd. Mae hi’n mynd i fod yn broses arafach ac mae hynny yn mynd i gael effaith ar yr economi.”
Heb unrhyw sicrwydd y bydd yr arian arferai ddod i Gymru o’r Undeb Ewropeaidd “yn dod o rywle arall” fel Llundain, “fe fydd diweithdra yn codi” yma yng Nghymru, meddai.
Pryder am amaeth
“Wrth gwrs mae gen i bryder am y diwydiant amaeth,” meddai Edward Jones, enillydd Ysgoloriaeth Nuffield 2020 sy’n cael ei noddi gan Gymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru am waith ymchwil ym maes amaethyddiaeth.
Pa ddyfodol mae’r arbenigwr yn ei weld i ddiwydiant cig eidion a chig oen Cymru yn y flwyddyn newydd, ar ôl i ni gefnu’n llwyr a’r Undeb Ewropeaidd?
“O edrych ar y diwydiant amaeth, sydd wedi bod ychydig bach yn gyfnewidiol yn ystod Covid-19… ond ar y cyfan dw i’n meddwl bod y diwydiant wedi dod allan o’r pandemig mewn cyflwr [eitha’] da. Ond y risg mwya’ rŵan ydi Brecsit – mae’r farchnad Undeb Ewropeaidd mor bwysig i’r diwydiant, yn enwedig efo cig oen.”
Yn ôl y darlithydd Economeg, mae’r farchnad Ewropeaidd yn un “allweddol” gan fod Cymru yn allforio 40% o’i chig oen, gyda dros 90% ohono yn mynd i wledydd yr Undeb Ewropeaidd.
“Mae colli 40% o’r farchnad yn ergyd a hanner,” meddai cyn dewis ei eiriau’n ofalus wrth ystyried a oes yna ddigon o amser yn weddill i Lundain a Brwsel daro unrhyw fath o fargen fyddai o werth i Gymru.
“Dw i’n meddwl bod yna gyfle ac amser i wneud deal ar nwyddau sy’n cynnwys manufacturing ac amaeth.
“Mae gwneud deal ar wasanaethau llawer yn anoddach – maen hawdd diffinio rhywbeth fel cig oen, ond mae diffinio gwasanaethau yn anoddach, a dw i ddim yn dal llawer o obaith ar hynny.”
Ac mae’r ddadl sy’n cael ei defnyddio’n aml gan y rhai sy’n hapus i gefnu ar yr Undeb Ewropeaidd – sef bod yr Undeb Ewropeaidd yn gwerthu mwy i Brydain na fel arall rownd – “yn ddadl wirion os gaf i fod yn llwyr onest!” meddai Edward Jones.
“Mae Prydain yn cyfri am 18% o allforion yr Undeb Ewropeaidd, tra mae’r UK yn allforio tua 45% i’r Undeb Ewropeaidd. Ac felly mi fydd hi’n fwy o glec i ni.”