Mae adroddiadau y bydd Downing Street yn ceisio ailosod cymalau Brexit dadleuol sy’n ymwneud â Gogledd Iwerddon pan fydd Bil y Farchnad Fewnol yn dychwelyd i Dŷ’r Cyffredin ddydd Llun nesaf (Rhagfyr 7).

Mae’r Arglwyddi eisoes wedi tynnu’r cymalau allan o’r Bil oherwydd eu bod yn torri cyfraith ryngwladol.

Cafodd y Bil hefyd ei gyhuddo o “ddwyn grymoedd” oddi wrth y Llywodraethau Datganoledig.

Cefndir

Mae’r Cytundeb Ymadael (neu’r “cytundeb ysgariad”) yn cynnwys adran – neu brotocol – ar Ogledd Iwerddon, ac mae bellach yn gytundeb rhyngwladol.

Dywed Erthygl 4 o’r cytundeb fod darpariaethau’r cytundeb yn cael blaenoriaeth gyfreithiol dros unrhyw beth yng nghyfraith ddomestig y Deyrnas Unedig.

Felly, os bydd unrhyw un o’r cynigion ym Mil y Farchnad Fewnol sy’n gwrthddweud y Cytundeb Ymadael yn dod yn gyfraith, byddai’n torri rhwymedigaethau rhyngwladol y Llywodraeth.

Dyna’r hyn y cyfeiriodd Brandon Lewis, Ysgrifennydd Gogledd Iwerddon, ato ym mis Medi pan siaradodd am dorri cyfraith ryngwladol mewn “ffordd benodol a chyfyngedig iawn”.

Nod protocol Gogledd Iwerddon yn gyffredinol oedd osgoi dychwelyd at ffin “galed” rhwng Gogledd Iwerddon yn y Deyrnas Unedig a Gweriniaeth Iwerddon yn yr Undeb Ewropeaidd.

Mae’r protocol yn nodi y byddai’n rhaid i gwmnïau sy’n symud nwyddau o Ogledd Iwerddon i wledydd Prydain (Cymru, Lloegr a’r Alban) lenwi ffurflenni datganiad allforio.

Ond byddai Bil y Farchnad Fewnol yn rhoi’r hawl i weinidogion anwybyddu’r rhan hon o gyfraith dollau’r Undeb Ewropeaidd.

Dywed rhan arall o’r protocol fod yn rhaid i’r Deyrnas Unedig ddilyn rheolau’r Undeb Ewropeaidd ar gymorth gwladwriaethol – y cymorth ariannol mae llywodraethau’n ei roi i fusnesau – ar gyfer nwyddau sy’n gysylltiedig â Gogledd Iwerddon.

Ond byddai Bil y Farchnad Fewnol yn rhoi pŵer i weinidogion ddehongli’r hyn y mae hynny’n ei olygu ac yn dweud na ddylid gwneud hyn yn unol â chyfraith achos Llys Cyfiawnder Ewrop.

Unwaith eto, mae hynny’n golygu fod y Deyrnas Unedig yn mynd yn groes i’r cytundeb rhyngwladol a lofnododd y llynedd.

Annerbyniol

Mae Brwsel eisoes wedi’i gwneud hi’n glir ei bod yn ystyried y cymalau hyn yn annerbyniol ac yn rhywbeth allai atal unrhyw obaith o sicrhau cytundeb fasnach.

Ond dywedodd un o Weinidogion y Cabinet wrth BBC Newsnight mai “bargaining chip” yw’r cymalau ac y gallai’r Llywodraeth benderfynu peidio eu hailosod os bydd yn dod i gytundeb â’r Undeb Ewropeaidd dros y penwythnos.

Aeth ymlaen i ddweud y gallai’r cymalau achosi i’r Undeb Ewropeaidd sylweddoli bod y Deyrnas Unedig o ddifrif am warchod ei sofraniaeth a “chymryd rheolaeth yn ôl”.

Bydd y Bil yn dychwelyd i’r Arglwyddi ddydd Mercher (Rhagfyr 9), a gallai hynny arwain at wrthdaro gyda Thŷ’r Cyffredin os bydd y cymalau wedi cael eu hailosod.