Mae Darren Millar, llefarydd Adferiad Covid y Ceidwadwyr Cymreig, yn herio Llywodraeth Cymru ynghylch y cyfyngiadau diweddaraf ar y diwydiannau lletygarwch ac adloniant dan do.
Bu’n cwyno ar weinidogion am fethu ag amserlennu pleidlais cyn i’r cyfyngiadau gael eu cyflwyno ddydd Gwener (Rhagfyr 4).
Wrth siarad yn y Senedd, soniodd Darren Millar am yr “effaith sylweddol” y bydd y cyfyngiadau yn ei chael ar fusnesau, a dywedodd y dylen nhw fod yn destun dadl a phleidlais yn y Senedd cyn dod i rym.
“A gaf i ddweud pa mor siomedig ydw i nad oes gennym ddadl yr wythnos hon, cyn y rheolau cyfyngol iawn a fydd yn dod i rym ledled Cymru ddydd Gwener? Rydych chi wedi cael y cyfle,” meddai
“Rydych chi a fi ein dau yn gwybod y bydd y cyfyngiadau hyn yn cael effaith sylweddol ar y diwydiannau lletygarwch ac adloniant dan do.
“Mae llawer o’r busnesau hynny sydd wedi’u heffeithio eisoes ar eu gliniau, gyda degau o filoedd o swyddi yn y fantol, ac mae eich cyfyngiadau’n mynd i achosi hyd yn oed mwy o boen i’r busnesau hynny.
“Mae llawer o bobol o’r farn bod y cynigion hyn yn gwbl anghymesur â lefel y risg yn y sefydliadau hynny, sydd eisoes yn amgylcheddau sy’n cael eu rheoli ac sy’n ddiogel rhag Covid.”
Diffyg “ystyriaeth”
“Nid yw eich cyfyngiadau chwaith yn rhoi unrhyw ystyriaeth o gwbl i’r ffaith bod y feirws yn cylchredeg ar gyfraddau gwahanol iawn mewn gwahanol rannau o’r wlad,” meddai Darren Millar wedyn.
“Yng ngogledd Cymru, mae’r cyfraddau’n llawer is nag mewn rhai rhannau o’r de.
“Allwch chi esbonio i’r Senedd heddiw pam ar y ddaear nad yw Llywodraeth Cymru wedi rhoi cyfle i gael pleidlais ar y rheoliadau hyn cyn dydd Gwener yma?”
Yn ei hymateb, dywedodd y Trefnydd y byddai “cyfle i bleidleisio ar y rheolau’n llawn o fewn yr amserlen a nodwyd gan Reolau Sefydlog y Senedd hon”, ond y byddai hyn yn golygu pleidlais ymhen pythefnos.