Mae’r Gweinidog Iechyd, Vaughan Gething, wedi dweud fod problemau o ran cludo a storio brechlyn Pfizer – mae angen ei gadw o dan -70C – yn golygu y byddai’n anodd brechu preswylwyr cartrefi gofal sy’n agored i niwed.

Dywedodd y bydd brechlyn Rhydychen yn opsiwn gwell pan gaiff gymeradwyaeth gan y gellid ei storio’n haws.

Dywedodd Mr Gething wrth y Senedd: “Oherwydd nodweddion penodol y brechlyn Pfizer, dydyn ni ddim yn meddwl y byddwn ni’n gallu mynd ag ef yn ddiogel i gartrefi gofal.

“Mae hynny’n golygu y bydd gennym nifer llai o ganolfannau brechu y bydd angen i ni ddod â phobl iddynt.

“Felly, ni fydd rhai preswylwyr cartrefi gofal o fewn yr wythnosau cyntaf i ddarparu’r brechlyn hwnnw.

Blaenoriaethu staff

Dywedodd Mr Gething wrth sesiwn lawn y Senedd fod cyflwyno’r brechlyn Pfizer-BioNTech i gartrefi gofal yng Nghymru yn cyflwyno heriau logistaidd, ac mae staff sy’n gweithio yn yr amgylcheddau hynny fyddai’n cael y flaenoriaeth.

“Mae’n golygu bod preswylwyr cartrefi gofal, sydd ar frig y rhestr o bobl sy’n agored i niwed… [mae’n golygu] nad ydym yn mynd i allu darparu’r brechlyn iddynt,” meddai Mr Gething.

“Byddant yn cael rhywfaint o amddiffyniad gyda’n gallu i flaenoriaethu staff sy’n gweithio yn yr amgylcheddau hynny.

“Rwy’n dal yn obeithiol y bydd y brechlyn hwn yn gwneud gwahaniaeth go iawn ond mae brechlyn Rhydychen yn rhoi llawer mwy o allu i ni fynd ag ef allan i bobl oherwydd ei fod yn frechlyn y gellir ei storio mewn oergell yn y bôn, felly mae llawer llai o heriau logistaidd i’w cyflawni.”

Dywedodd Mr Gething nad oedd modd cludo’r brechlyn Pfizer i fwy na 1,000 o gartrefi gofal ledled Cymru.

“Allwn ni ddim bod yn glir y bydd yn dal yn effeithiol i’w ddefnyddio ym mhob un o’r cartrefi hynny ac nid yw’n rhywbeth y gallwch ei drosglwyddo mewn meintiau bach iawn,” meddai.

“Anodd iawn”

Yn gynharach, wrth siarad yng nghynhadledd coronafeirws y llywodraeth, esboniodd Dr Gill Richardson sy’n cadeirio Bwrdd Rhaglen Brechlyn Covid-19 a Phrif Swyddog Meddygol Cymru, Dr Frank Atherton, y byddai’n “anodd iawn” dosbarthu brechlyn Pfizer i gartrefi gofal.

“Rydyn ni’n ceisio dod o hyd i ffyrdd i ddarparu’r brechlyn hwn drwy ddull mwy gwasgaredig o ddosbarthu,” meddai Dr Richardson.

“Wrth gwrs mae brechlynnau eraill ar y gweill, brechlyn Oxford er enghraifft, sydd ddim â gofynion mor llym o ran ei gadw ar dymheredd penodol.

“Wrth i hynny ddod ar gael, fel rydyn ni’n gobeithio, bydd hynny’n rhoi gallu pellach i ni weithio ein ffordd trwy’r rhestrau blaenoriaeth.

“Ni allaf roi union ddyddiad nag amserlen, ond rydym yn gweithio trwy’r broses honno cyn gynted ag y gallwn.”

‘Pryderon o hyd am yr amserlen’

Mae’r anallu i gynnig amserlen i frechu preswylwyr cartrefi gofal yn bryder i Blaid Cymru.

“Mae hwn yn drobwynt pwysig iawn ond mae pryderon o hyd ynglŷn â’r anallu i frechu preswylwyr cartrefi gofal,” meddai Rhun ap Iorwerth, Gweinidog Iechyd cysgodol y blaid.

“Er bod Vaughan Gething fod wedi rhoi sicrwydd y bydd Cymru’n cael ei chyfran gywir o frechlynnau heb unrhyw oedi ac y bydd mynediad cyfartal, mae angen i ni weld sut bydd hyn yn cael ei gyflawni ar lawr gwlad – mae angen amserlen glir.”

Er yr anawsterau logistaidd, dyma’r brechlyn cyflymaf erioed i gael ei gwblhau; 10 mis, o’i gymharu â degawd mewn nifer o achosion eraill.

Ar ôl cymeradwyo’r brechlyn mae Llywodraeth Prydain wedi archebu digon i frechu 20m o bobol, a bydd hanner y cyfanswm hwnnw ar gael i grwpiau sydd wedi’u blaenoriaethu’n gyntaf, gan gynnwys gweithwyr iechyd.

Darllen mwy