Mae Mark Drakeford, Prif Weinidog Cymru, wedi croesawu’r cyhoeddiad bod sêl bendith wedi’i roi i frechlyn coronafeirws Pfizer a BioNTech.

Y disgwyl yw y bydd y rhaglen frechu’n dechrau yr wythnos nesaf, a bydd rhestr flaenoriaeth yn cael ei chyhoeddi cyn bo hir.

Mae ymchwil yn dangos bod y brechlyn yn 95% yn effeithiol a’i fod yn addas i bobol o bob oed.

Mae Llywodraeth Prydain wedi archebu digon i frechu 20m o bobol, a bydd hanner y cyfanswm hwnnw ar gael i grwpiau sydd wedi’u blaenoriaethu’n gyntaf, gan gynnwys gweithwyr iechyd.

‘Newyddion sylweddol’

“Newyddion sylweddol y bore ’ma,” meddai Mark Drakeford ar Twitter.

“Diolch i bawb sydd wedi gweithio mor galed i wireddu hyn.

“Mae ein rhaglen frechu yn barod i fynd, ond ni fydd yr effaith yn cael ei gweld yn genedlaethol am rai misoedd.

“Yn y cyfamser, rhaid i ni gyd barhau i ddilyn y rheolau a diogelu ein gilydd.”

Y drefn

Mae’n rhaid derbyn dau ddos o frechlyn Pfizer/BioNTech gyda saib o bedair wythnos rhwng y ddau frechiad.

Mae’r brechlyn yn dod yn effeithiol, gan amddiffyn y corff, wythnos wedi’r ail ddos, ond mae’r brechlyn yn amddiffyn y corff ryw ychydig wythnos i bythefnos wedi’r dos gyntaf.

Gan fod yn rhaid storio’r brechlyn mewn amgylchedd hynod oer, mae e’n peri heriau unigryw i’r Gwasanaeth Iechyd.

Bydd y brechlynnau yn cael eu cludo i ddwy ganolfan arbennig, gyda’r amgylchiadau delfrydol i’r brechlyn, a bydd byrddau iechyd yn eu casglu o’r llefydd yma.

Bydd y rheiny sydd wedi cael eu brechu yn derbyn carden – maint cerdyn credyd – gydag enw’r brechlyn, dyddiad y brechu, a rhif llwyth (batch number) y dos.

Yn ogystal ag atgoffa’r cyhoedd i gymryd eu hail ddos, mi fydd y cardiau yma hefyd yn darparu gwybodaeth ynghylch sut i adrodd sgil effeithiau.

Brechlynnau

Hyd yma, mae tri chwmni wedi rhannu data am eu brechlynnau, ac mae dau ohonyn nhw yn dal i aros am sêl bendith rheoleiddiwr y Deyrnas Unedig.

Mae brechlyn Moderna yn 94% effeithiol ac mae Llywodraeth San Steffan wedi archebu 7m dos. Mae effeithioldeb Rhydychen/AstraZeneca rhwng 62% a 90%, ac mae 100m dos wedi’u harchebu.

Yn ôl yr Ysgrifennydd Iechyd Vaughan Gething, mi allai brechlyn Rhydychen/AstraZeneca gael ei gyflwyno yn ddiweddarach ym mis Rhagfyr.

Ar ben y cyfan, mae sawl cwmni arall wrthi’n datblygu brechlynnau gan gynnwys cwmni Janssen – mae dinas Caerdydd ynghlwm â’u treial hwythau.

Galw am Weinidog Brechu

Mae Andrew RT Davies, llefarydd iechyd y Ceidwadwyr yn y Senedd, wedi croesawu’r “newyddion positif” ond mae wedi galw ar i Vaughan Gething fynd i’r afael â “nifer o faterion pwysig”.

Mae’n galw am ragor o wybodaeth ynghylch sut fydd y Gwasanaeth Iechyd yn ymdopi pan fydd rhagor o frechlynnau yn cael eu cymeradwyo – h.y ymdopi â heriau storio unigryw pob brechlyn ac ati.

Ac mae hefyd yn galw am ragor o wybodaeth ynghylch pwy fydd yn derbyn y brechlyn, a phryd fydd y rhaglen yn dechrau.

Ar Twitter, mae’n awgrymu y dylai fod gan Gymru Weinidog Brechu “o ystyried pa mor gymhleth y mae dylifro rhaglen brechu”.

“Y bennod olaf”

Mae Rhun ap Iorwerth, Aelod Plaid Cymru o’r Senedd, wedi croesawu’r “newyddion calonogol iawn am y brechiad”, ond mae’n pwysleisio nad yw’r argyfwng ar ben eto.

“Hon yw’r bennod olaf – ond megis dechrau yw hi,” meddai.

“Felly mae tipyn o lwybr o’n blaenau o hyd. Nawr mae angen i ni gael eglurder ynghylch pryd, pwy, ble, ac ati.”

Mae Adam Price, arweinydd y Blaid, wedi atseinio’r farn honno gan bwysleisio’r angen am “eglurder” gan y Llywodraeth.

“Mae gobaith yn beth hynod bwerus,” meddai.

“Roedd yn hyfryd deffro bore heddiw i’r newyddion positif am y brechlyn. Diolch i bawb a wnaeth hyn yn bosib.

“Mae angen eglurder arnom yn awr wrth Lywodraeth Cymru ynghylch pwy fydd yn ei dderbyn, pryd, a sut – a bod Cymru yn derbyn siâr deg ar sail angen.”