Bydd Trafnidiaeth Cymru yn goleuo eu pencadlys newydd yn borffor yfory (dydd Iau, Rhagfyr 3), ac yn cynrychioli Cymru mewn darllediad byd-eang sy’n dathlu cynhwysiant pobol ag anableddau.
Mae #PurpleLightUp yn ymgyrch fyd-eang sy’n dathlu ac yn tynnu sylw at gyfraniad economaidd 386m o weithwyr ag anableddau ledled y byd.
Eleni, bydd y darllediad byd-eang 24 awr yn dechrau yn Awstralia, cyn dechrau wedyn yn Asia, Affrica ac Ewrop – lle bydd staff Trafnidiaeth Cymru yn cael eu cynnwys – ac yna De a Gogledd America.
Dywedodd James Price, prif swyddog gweithredol Trafnidiaeth Cymru, ei fod yn falch o gefnogi’r ymgyrch.
“Mae Trafnidiaeth Cymru yn sefydliad cwbl gynhwysol, lle mae pawb yn cael eu trin yn gyfartal â pharch ac rydym yn dathlu amrywiaeth,” meddai.
“Bydd yn wych gweld ein pencadlys newydd ym Mhontypridd yn goleuo’n borffor ar gyfer y dathliad byd-eang hwn a chynrychioli Cymru.”