Mae dau safle trwyddedig yn Sir Gaerfyrddin wedi cael dirwy o £1,000 am aros ar agor y tu hwnt i’r amser cau presennol, sef 10.20 yr hwyr.
Mae’r Coopers Arms yn y Betws a Chlwb Rygbi’r Betws wedi eu dirwyo gan Gyngor Sir Caerfyrddin am dorri rheoliadau Covid-19.
Yn ystod y bythefnos ddiwethaf, mae swyddogion y cyngor wedi ymweld â 200 o leoliadau trwyddedig i weld a ydyn nhw’n cydymffurfio â’r rheoliadau.
‘Rhoi cwsmeriaid mewn perygl’
“Mae ein swyddogion wedi bod yn gweithio’n eithriadol o galed i gefnogi’r diwydiant,” meddai’r Cynghorydd Philip Hughes, yr aelod dros ddiogelu’r cyhoedd a gorfodaeth.
“Wedi dweud hynny, mae wedi bod yn siomedig gweld nifer fach ohonyn nhw’n anwybyddu’r rheolau’n ddi-hid neu’n fwriadol ac yn rhoi eu cwsmeriaid mewn perygl wrth wneud hynny.
“Yn ogystal â sicrhau bod cwsmeriaid yn gallu cyfarfod a chymdeithasu’n ddiogel, mae’n rhaid i ni hefyd sicrhau chwarae teg i bob busnes y mae’r rhan fwyaf ohonyn nhw yn ymdrechu’n galed i fodloni’r rheoliadau.
“Mae hwn yn gyfnod eithriadol o anodd i’n diwydiant lletygarwch, yn enwedig yng ngoleuni’r rheoliadau newydd sy’n dod i rym ddydd Gwener.”
Bydd y rheolau newydd sydd yn dod i rym ddydd Gwener (Rhagfyr 4) yn gorfodi tafarndai, bariau, bwytai a chaffis i gau am chwech yr hwyr, a fyddan nhw ddim yn cael gweini alcohol.
Cau tri tŷ tafarn arall yn y sir
Yn ogystal â chyhoeddi dau hysbysiad cosb, bu’n rhaid i Gyngor Sir Caerfyrddin gau tri safle lle’r oedd diffygion sylweddol o ran mesurau diogelwch.
Cafodd y Biddulph Arms a’r Greenfield Inn eu cau yn Llanelli, yn ogystal â’r Wheaten Sheaf yn Abergwili.
Mae nifer o safleoedd eraill hefyd wedi cael hysbysiadau gwella, a bydd y swyddogion y cyngor yn ymweld â nhw eto.