Mae Helen Mary Jones yn galw ar Lywodraeth Cymru i gamu i mewn i warchod swyddi gweithwyr Arcadia a Debenhams.

Fe ddaw wrth i’r cyhoeddiad godi amheuon am filoedd o swyddi yn siopau yng Nghymru, sy’n “newyddion dinistriol”, yn ôl llefarydd economi a threchu tlodi Plaid Cymru.

“Dw i’n gwybod fod Debenhams yn cael eu hystyried yn angor o siop i nifer o gymunedau yng Nghymru felly bydd yr effaith i’w theimlo ar y stryd fawr ledled Cymru,” meddai.

“Mae methiant perchnogion busnesau Arcadia Group i ddeall busnes manwerthu yn iawn a’r methiant hirdymor i fuddsoddi wedi chwarae cymaint o ran yn yr argyfwng hwn â’r amgylchiadau masnachu anodd iawn.

“Fel mae Canolfan Llywodraethiant Cymru wedi nodi, masnachu nad yw’n fwyd yw un o sectorau’r economi sydd wedi ei daro waethaf ac yn aml iawn, menywod sy’n gweithio yn y sector hwn.

“Rhaid i Lywodraeth Cymru ddarparu pa bynnag gefnogaeth y gallan nhw i ymdrechu i achub rhai o’r busnesau a rhai o’r swyddi, a sicrhau bod cefnogaeth gynhwysfawr ar gael i bawb sydd wedi’u heffeithio ac nad oes modd achub eu swyddi ail-hyfforddi a chwilio am swyddi newydd.”