Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi cynlluniau i gynyddu nifer y mannau gwefru ceir trydan yng Nghymru.

Mae’r strategaeth yn nodi’r angen am rhwng 30,000 a 50,000 o fannau gwefru cyflym dros y degawd nesaf, a rhwng 2,000 a 3,500 o fannau gwefru cyflym iawn.

Mae gan y Llywodraeth weledigaeth y bydd pawb sy’n defnyddio cerbydau trydan yng Nghymru yn hyderus y gallan nhw ddefnyddio seilwaith gwefru cerbydau trydan lle a phryd bynnag y byddan nhw eu hangen erbyn 2025.

I gyflawni hyn, mae’r Llywodraeth yn bwriadu buddsoddi £30m dros bum mlynedd i greu’r mannau gwefru newydd.

Ar hyn o bryd, dim ond 0.17% o’r cerbydau sy’n cael eu defnyddio yng Nghymru sy’n geir trydan.

Camau cyntaf

“Rydym yng nghamau cyntaf y chwyldro trafnidiaeth fydd yn gweld ceir a faniau petrol a disel yn dod i ben yn raddol,” meddai Ken Skates, Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a gogledd Cymru.

“Er mwyn mynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd, mae’n rhaid i’n system drafnidiaeth ddod yn lannach ac yn wyrddach.

“Mae cerbydau trydan yn farchnad newydd ond yn un fydd yn hanfodol i sut y byddwn yn teithio yn y blynyddoedd nesaf.”

Ychwanegodd mai bwriad Llywodraeth Cymru yw cefnogi’r sectorau cyhoeddus, preifat a’r trydydd sector er mwyn eu galluogi i gydweithio a rhoi hyder i bobol ddefnyddio cerbydau trydan.