Mae bragdy mwyaf Cymru wedi cyhoeddi y bydd yn cau pob un o’u tafarndai o ddydd Gwener (Rhagfyr 4) – tra bod dros 100 o dafarnai’r gogledd wedi gwahardd y prif weinidog Mark Drakeford am 18 mis.
Bydd Bragdy Brains, sy’n berchen ar fwy na 200 o dafarndai yng Nghymru, yn rhoi 1,500 o weithwyr ar gynllun gwarchod swyddi’r llywodraeth tan bod modd iddyn nhw ailagor yn llawn.
Yn y cyfamser, mae grŵp Pubwatch Gorllewin Conwy yn dweud bod Mark Drakeford wedi ei wahardd rhag mynd i dafarndai eu haelodau am o leiaf 18 mis.
Daw hyn wedi i Lywodraeth Cymru gyhoeddi y bydd rhaid i dafarndai, bariau, bwytai a chaffis gau am chwech yr hwyr, ac na fyddan nhw’n cael gweini alcohol – ond bydd hawl ganddyn nhw ddarparu gwasanaeth tecawê, gan gynnwys diodydd alcohol drwy’r dydd hyd at 10 yr hwyr.
‘Rhwystredig a sarhaus’
Wrth gyhoeddi’r newid, dywedodd Mark Drakeford fod gosod y cyfyngiadau newydd ar y diwydiant lletygarwch yng Nghymru yn “destun gofid mawr”.
Ond eglura Alistair Darby, prif weithredwr Bragdy Brains, wrth Radio Wales fod hyn yn ychwanegu at y colledion diweddar, gyda’r clo dros dro yn costio £1.6m i’r bragdy.
“Mae’n rhwystredig iawn ac ychydig yn sarhaus i ddweud y gwir,” meddai.
“Mae’n rhoi’r argraff nad yw pobol yn gwneud yr ymdrech sy’n ofynnol iddynt.”
Ochr yn ochr â’r cyfyngiadau newydd, mae Llywodraeth Cymru hefyd wedi cyhoeddi pecyn cymorth gwerth £330m i’r diwydiant lletygarwch.
Fodd bynnag, dywedodd Alistair Darby nad yw’r gefnogaeth yn ddigonol.
Mae’r cwmni eisoes wedi gwario £500,000 ar offer diogelu personol a diweddaru technoleg ar gyfer archebu ymlaen llaw.
“Fy neges i wleidyddion yw fod rhaid i chi roi’r gorau i newid eich meddwl ar yr hyn sy’n ofynnol i’r sector,” meddai.
“Rydym wedi chwarae mwy na’n rhan i sicrhau bod marwolaethau posibl yn cael eu hosgoi.”