Mae Liz Saville Roberts, arweinydd Plaid Cymru yn San Steffan, wedi dweud ei bod yn “fraint enfawr” gweithio ar ran ei hetholwyr, wrth iddi ennill Gwobr Aelod Seneddol y Flwyddyn gan yr elusen amrywiaeth a chynhwysiant, Sefydliad Patchwork.
Cafodd Aelod Seneddol Dwyfor Meirionnydd ei chydnabod am ei gwaith rhanbarthol yn hyrwyddo hawliau merched ifanc, gan ennill gwobr ‘Aelod Seneddol Plaid Arall y Flwyddyn’.
Cafodd Liz Saville Roberts ei hethol i Dŷ’r Cyffredin am y tro cyntaf ym mis Mai 2015, a hi yw Aelod Seneddol benywaidd cyntaf Plaid Cymru ac arweinydd y grŵp yn San Steffan.
Mae Sefydliad Patchwork yn anrhydeddu llond llaw o aelodau seneddol sy’n cael eu dewis gan banel annibynnol o feirniaid.
Mae gwobr Aelod Seneddol y Flwyddyn yn cael ei rhoi yn flynyddol ac yn cydnabod aelodau seneddol am eu gwaith wrth gefnogi cymunedau difreintiedig.
“Rwy’n wirioneddol falch o dderbyn y wobr hon oherwydd yn ôl ei gwerthoedd y dylid barnu blaenoriaethau pob Aelod Seneddol,” meddai Liz Saville Roberts.
“Mae pob cenhedlaeth o wleidyddion yn gyfrifol am hyrwyddo gwerthoedd, cydraddoldeb a chyfiawnder mewn gwleidyddiaeth.
“Yn rhy aml, gall San Steffan ymddangos ar wahân: cymeriadau pantomeim mewn drama freintiedig ymhell o heriau a chyfleoedd y byd go iawn.
“Fel Aelod Seneddol, mae’n ddyletswydd arna i wneud y cysylltiad rhwng theatr San Steffan a realiti ein bywydau bob dydd.
“Mae’n fraint enfawr gweithio ar ran pobl Dwyfor Meirionnydd, gan hyrwyddo achosion lleol yn ogystal ag ymgysylltu ar ran pobl leol â heriau mawr ein hamser, a sicrhau bod buddiannau’r rhai sy’n byw ac yn gweithio yma yn cael eu parchu yn San Steffan.”
“Rwy’n ddiolchgar i’n holl enillwyr am roi o’u hamser i fod yn rhan o’r seremoni heno,” meddai Imran Sanaullah, prif swyddog gweithredol Sefydliad Patchwork.
“Rydym yn falch o’r gwaith rydym yn ei wneud gyda Sefydliad Patchwork i addysgu pobl ifanc am y ffordd y mae eu democratiaeth yn gweithio, ac edrychwn ymlaen at barhau i ddarparu’r offer a’r sgiliau hynny.”