Bydd Billy Boston, Gus Risman a Clive Sullivan yn cael eu hanrhydeddu gyda cherflun yr un yng Nghaerdydd.

Nod ‘Un Tîm. Un Ddynoliaeth’ yw sicrhau nad yw hanesion y gymuned amlddiwylliannol yng Nghymru yn cael eu hanghofio.

Cafodd y project ei ysbrydoli gan alwadau gan gymunedau Butetown a Bae Caerdydd am deyrnged briodol i’r chwaraewyr.

Yn dilyn hyn cafodd y cyhoedd y cyfle i ddewis o blith 13 chwaraewr a wnaeth gyfraniad i Rygbi’r Gynghrair yn ystod y 120 mlynedd diwethaf.

‘Ysbrydoliaeth’

“Bydd cerflun i’r tri ohonyn nhw yn ychwanegiad gwych i’r ddinas ac rydyn ni’n gobeithio y bydd yn gweithredu fel catalydd yn eu hen ardal,” meddai Huw Thomas, arweinydd Cyngor Caerdydd.

“Mae Billy, Gus a Clive bob amser wedi bod yn ffigurau enfawr yn stori chwaraeon Caerdydd, ond mae’r ffordd y gwnaethon nhw dorri’n rhydd o’u ffiniau lleol, curo rhagfarnau hiliol a mynd ymlaen i ddod yn fyd-enwog yn eu gwneud yn ffigurau hyd yn oed mwy.

“Mae’r tri yn ysbrydoliaeth i eraill.”

Dyma hanesion cryno y tri ddaeth i’r brig:

  • Billy Boston

Ganed yn Angelina Street yn y Brifddinas a chwaraeodd dros Ysgolion Caerdydd, Clybiau Bechgyn Cymru, Ieuenctid Cymru, y CIACS a Chastell-nedd yn rygbi’r undeb.

Arwyddodd i Glwb Rygbi’r Gynghrair Wigan yn ei arddegau am £3,000.

Aeth ymlaen i sgorio 478 o geisiau mewn 487 o gemau, gan eu helpu i ennill chwe rownd derfynol y Gwpan Her.

Chwaraeodd 31 o weithiau i Brydain Fawr, gan ennill Cwpan y Byd Rygbi’r Gynghrair yn 1960.

Mae cerflun iddo hefyd yn Wigan ac mae wedi’i gynnwys ar gerflun Rygbi’r Gynghrair yn Stadiwm Wembley.

  • Gus Risman

Yn fab i fewnfudwyr o Rwsia a ymgartrefodd yn Tiger Bay, aeth i Ysgol South Church Street.

Capteiniodd tîm 15 bob ochr Cymru mewn gemau undeb rhyngwladol yn ystod y Rhyfel.

Mae stryd wedi’i henwi ar ei ôl yn Salford a Workington ac mae hefyd ar gerflun Rygbi’r Gynghrair yn Stadiwm Wembley.

Rhwng 1929 a 1954 sgoriodd 4,052 o bwyntiau mewn 873 o gemau dros Salford a Workington Town.

Ef oedd capten tîm Workington Town pen enillon nhw’r Gwpan Her.

Chwaraeodd hefyd mewn 36 o gemau prawf i Brydain Fawr, gan chwarae mewn pum cyfres fuddugol y Lludw, ac enillodd 18 o gapiau dros Gymru.

  • Clive Sullivan

Ganed Clive Sullivan yn Sblot ac ef oedd capten du cyntaf Prydain Fawr yn unrhyw gamp.

Arweiniodd Prydain Fawr at deitl Cwpan y Byd Rygbi’r Gynghrair ym 1972, gan sgorio cais ym mhob un o’r gemau.

Chwaraeodd hefyd i Brydain Fawr yng Nghwpan y Byd 1968 yn Awstralia a chapteinio Cymru yng Nghwpan y Byd 1975.

Ar ôl cyfnod yn y Fyddin ymunodd â Hull ac aeth ymlaen i chwarae 352 o gemau i’r clwb, gan sgorio 250 o geisiau.

Yna symudodd i Hull Kingston Rovers gan sgorio 118 iddynt mewn 213 o gemau.

Enillodd y Gwpan Her â’r ddau glwb ac enwyd y brif ffordd i mewn i Hull yn ‘Clive Sullivan Way’ er anrhydedd iddo.