Mae Gweinidog Iechyd Cymru, Vaughan Gething wedi dweud y gallai tarfu ar borthladdoedd o ganlyniad i Brexit “amharu” ar gyflenwadau meddygol.
Bydd lorïau sy’n cyrraedd porthladd Caergybi yn gorfod teithio i Loegr i gael eu gwirio yn y cyfnod ar ôl Brexit, gan fod ymdrechion i ddod o hyd i safle ym Môn wedi bod yn aflwyddiannus hyd yma.
“Efallai na fydd yr aflonyddwch i’r cyflenwad yn amlwg ar y diwrnod cyntaf, ond mae yno her ynglŷn â threfniadau tymor hir, ac mae hynny angen ei sortio oherwydd y gwir yw nad ydym yn gwybod lle rydyn ni’n mynd i fod gyda threfniadau ehangach,” meddai Vaughan Gething wrth gynhadledd i’r wasg.
“Nid yw’r ansicrwydd hwnnw o gymorth i ni,” meddai.
“O ran rhywfaint o’r feddyginiaeth y gwyddom fod angen i ni ei chael ac na ellir ei dal yn ein porthladdoedd oherwydd y byddai’n colli ei heffeithiolrwydd, boed yn feddygaeth niwclear neu’n frechlyn Covid, mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig wedi gwneud trefniadau i hedfan y rheini i wahanol rannau o’r Deyrnas Unedig.
“Mae hynny’n amlwg yn dod gyda chost ychwanegol ond byddai’n gwbl annerbyniol cael brechlynnau Covid yn cael eu dal mewn porthladdoedd ac yna dod yn aneffeithiol a ddim yn gallu cael eu defnyddio, ac felly mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig wedi gorfod gwneud y trefniadau amgen hynny.”
Dywedodd Vaughan Gething bod y materion hyn yn “tynnu sylw” oddi ar ymdrechion y Gwasanaeth Iechyd Gwladol dros y Gaeaf, a hynny pan fod y coronafeirws “ym mhob cymuned yng Nghymru ac yn achosi niwed”.