Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi cynlluniau er mwyn i fyfyrwyr allu dychwelyd i brifysgolion Cymru ar ôl gwyliau’r Nadolig.

Bydd myfyrwyr yn cael eu gwahodd i ddychwelyd dros gyfnod o bedair i bum wythnos, gan ddechrau o Ionawr 11.

Yna bydd myfyrwyr yn dychwelyd yn raddol i addysgu wyneb yn wyneb.

Mis Tachwedd cyhoeddwyd bydd profion yn cael eu darparu i fyfyrwyr Cymru er mwyn sicrhau eu bod yn medru treulio’r Nadolig â’u teuluoedd.

Dau brawf opsiynol ar ôl dychwelyd

Bydd rhaglen ‘profion llif unffordd’ ym mhrifysgolion Cymru yn ailgychwyn yn y flwyddyn newydd, er mwyn galluogi myfyrwyr i ddychwelyd yn ddiogel.

Bydd myfyrwyr yn cael eu hannog i gymryd dau brawf ac osgoi cyfarfod i gymdeithasu am dri diwrnod ar ôl dychwelyd.

Os na fydd myfyrwyr yn dymuno cael prawf bydd gofyn iddynt leihau eu cysylltiadau a pheidio cymysgu ag eraill am 14 diwrnod.

Mae sicrhau bod dysgwyr o bob oed yn gallu parhau i astudio wedi bod yn flaenoriaeth i Kirsty Williams.

‘Torri’r gadwyn drosglwyddo’

“Rydym yn rhoi’r mesurau hyn ar waith i sicrhau hyder wrth ddychwelyd i ddysgu wyneb yn wyneb ac i leihau’r risg y bydd angen i nifer fawr o fyfyrwyr hunanynysu yn ystod y tymor,” meddai Kirsty Williams, y Gweinidog Addysg.

“Bydd y rhaglen profion unffordd hefyd yn allweddol er mwyn ailddechrau dysgu’n ddiogel ar y campws.

Bydd dychwelyd fesul cam, mewn ffordd sy’n cael ei rheoli, yn helpu i ateb y galw fel y gall pob myfyriwr gael dau brawf.

“Bydd hyn yn helpu i dorri’r gadwyn drosglwyddo gan y bydd modd i unrhyw un sy’n heintus heb wybod hynny hunanynysu a lleihau’r risg o drosglwyddo’r feirws i eraill.”

Prifysgolion Lloegr

Mae’r cynlluniau yn dilyn cyhoeddiad y bydd myfyrwyr yn Lloegr yn cael cynnig prawf wrth ddychwelyd i brifysgolion yno.

Ond yn wahanol i Gymru, yn Lloegr bydd gofyn i fyfyrwyr sydd wedi’u blaenoriaethu ddychwelyd rhwng Ionawr 4 – 18, ac yna’r gweddill yn ystod y bythefnos ganlynol.