Mae cynllun cymorth hunanynysu Llywodraeth Cymru wedi ei ymestyn i gynnwys rhieni sy’n gorfod hunanynysu oherwydd bod achosion o’r coronafeirws yn ysgol neu leoliad gofal eu plant.

Bydd rhieni a gofalwyr ar incwm isel y mae eu plant yn gorfod hunanynysu yn gymwys i gael taliad cymorth o £500.

Lansiwyd y Cynllun Cymorth Hunanynysu fis diwethaf i roi cymorth ariannol i bobl ar incwm isel neu sy’n wynebu caledi ariannol wedi iddynt gael cyfarwyddyd i hunanynysu.

“Byddwn ni’n ymestyn pwy sy’n gymwys am y cynllun grant o £500 o ddydd Llun nesaf [Rhagfyr 14],” meddai’r Gweinidog Iechyd, Vaughan Gething, yn ystod cynhadledd i’r wasg brynhawn dydd Llun, Rhagfyr 7.

“Mae’r taliad hunanynysu o £500 ar gael i helpu pobol ar gyflogau isel ac mae’r ychwanegiad i dal salwch statudol ar gael i weithwyr gofal cymdeithasol sy’n gorfod hunanynysu.

Ychwanegodd y Prif Weinidog Mark Drakeford: “Bydd ymestyn y cynllun hwn yn helpu i liniaru’r caledi ariannol y mae rhai rhieni yn ei wynebu, gan eu helpu i ofalu am eu plant.”

Plant hyd at, a chan gynnwys, blwyddyn wyth – neu ddysgwyr ifanc hyd at 25 oed os oes ganddynt anghenion ychwanegol – sy’n gymwys.

Bydd modd gwneud cais am y taliad hunanynysu ar wefan eu hawdurdod lleol o Ragfyr 14 ymlaen.

Croeso

Croesawodd Helen Mary Jones AS, Gweinidog Cysgodol Plaid Cymru dros yr Economi a Threchu Tlodi, y newid, a gofyn i LywodraethCymru barhau i edrych ar helpu gyda rhwystrau eraill.

“Mae Plaid Cymru wedi galw am y newid hwn ar sawl achlysur, felly rwy’n falch o glywed y bydd nawr yn cael ei weithredu.

“Fodd bynnag, byddwn yn gofyn am sicrwydd gan Lywodraeth Cymru y byddant yn edrych ar rwystrau eraill, yn ariannol ac yn ymarferol, y mae pobl yn eu hwynebu pan fydd angen hunanynysu.

“Ni ddylai unrhyw un fod mewn sefyllfa lle mae’n rhaid iddyn nhw ddewis rhwng rhoi bwyd ar y bwrdd neu roi eraill mewn perygl.”