Dyma’r ffigurau diweddaraf ar gyfer y ‘gyfradd saith diwrnod’ o achosion covid-19 newydd ar gyfer pob ardal awdurdod lleol yng Nghymru.

Mae’r ffigurau, ar gyfer y saith diwrnod hyd at 3 Rhagfyr, yn seiliedig ar brofion a gynhaliwyd yn labordai GIG Cymru, a’r rhai a gynhaliwyd ar drigolion Cymru a brosesir mewn labordai masnachol.

Mynegir y gyfradd fel nifer yr achosion newydd fesul 100,000 o bobl.

Mae data ar gyfer y pedwar diwrnod diweddaraf (Rhagfyr 4-7) wedi’i eithrio gan ei fod yn anghyflawn ac yn tanddatgan gwir nifer yr achosion.

Cyfraddau wedi codi mewn 19 o’r 22 ardal

Mae’r cyfraddau wedi codi mewn 19 o’r 22 ardal awdurdod lleol.

Mae’r cynnydd mwyaf yng Nghastell-nedd Port Talbot, lle mae’r gyfradd wedi codi o 343.3 i 611.2 – yr uchaf yn y wlad.

Torfaen a gofnododd y gostyngiad mwyaf, i lawr o 459.8 i 411.9.

Mae’r rhestr yn seiliedig ar ddata a gyhoeddwyd ar ddangosfwrdd Covid-19 Iechyd Cyhoeddus Cymru ar 7 Rhagfyr.

O’r chwith i’r dde, mae’r rhestr fel a ganlyn… enw’r awdurdod lleol; cyfradd yr achosion newydd yn y saith diwrnod hyd at 3 Rhagfyr; nifer (mewn cromfachau) o achosion newydd a gofnodwyd yn y saith diwrnod hyd at Ragfyr 3; cyfradd yr achosion newydd yn y saith diwrnod hyd at 26 Tachwedd; nifer (mewn cromfachau) o achosion newydd a gofnodwyd yn y saith diwrnod hyd at 26 Tachwedd.

Castell-nedd Port Talbot 611.2, (876), 343.3, (492)

Blaenau Gwent 499.6, (349), 436.6, (305)

Merthyr Tudful 464.1, (280), 310.0, (187)

Abertawe 426.3, (1053), 287.9, (711)

Torfaen 411.9, (387), 459.8, (432)

Caerffili 392.1, (710), 282.8, (512)

Casnewydd 390.5, (604), 336.8, (521)

Rhondda Cynon Taf 390.0, (941), 310.4, (749)

Pen-y-bont ar Ogwr 342.7, (504), 197.9, (291)

Caerdydd 322.2, (1182), 214.8, (788)

Sir Gaerfyrddin 270.7, (511), 203.4, (384)

Sir Fynwy 265.4, (251), 186.1, (176)

Bro Morgannwg 223.1, (298), 164.7, (220)

Wrecsam 206.7, (281), 169.2, (230)

Sir Benfro 174.9, (220), 116.0, (146)

Ceredigion 162.3, (118), 170.6, (124)

Sir y Fflint 129.4, (202), 101.2, (158)

Powys 90.6, (120), 80.8, (107)

Sir Ddinbych 83.6, (80), 72.1, (69)

Conwy 53.8, (63), 20.5, (24)

Ynys Môn 51.4, (36), 81.4, (57)

Gwynedd 43.4, (54), 28.1, (35)