Mae adroddiad fydd yn cael ei chyflwyno i Gabinet Cyngor Gwynedd yn argymell buddsoddi dros £77 miliwn dros y chwe blynedd nesaf er mwyn sicrhau 1,500 o gartrefi fforddiadwy i bobol Gwynedd.

Bydd y Cynllun Gweithredu Tai yn cael ei arwain gan yr Adran Tai ac Eiddo newydd a sefydlwyd gan y Cyngor.

Yn ôl y Cyngor, bydd yr adran yn mynd i’r afael â’r prinder o gartrefi addas sydd ar gael i bobol leol, gan ddweud ei fod yn “sefyllfa annheg ac anghyfiawn.”

“Argyfwng”

“Fy mhrif flaenoriaeth ydi sicrhau ein bod fel Cyngor yn gwneud popeth o fewn ein gallu i gynnig cartrefi i bobl Gwynedd o fewn ein cymunedau,” meddai’r Cynghorydd Craig ab Iago, Aelod Cabinet Tai Cyngor Gwynedd.

“Rydan ni’n gwybod fod ein pobl ifanc yn wynebu fwy o her nag erioed i sicrhau cartref addas yn lleol, ac mae’n sefyllfa annheg ac anghyfiawn.

“Mae’n sefyllfa o argyfwng ac rydw i’n benderfynol o’n gweld yn newid hyn. Felly rwyf yn hynod falch o’r Cynllun hwn, sydd nid yn unig yn dangos fod gan Gyngor Gwynedd weledigaeth glir yn y maes tai, ond yn bwysicach na hynny, fod gennym gynlluniau pendant i weithredu’r weledigaeth honno.

“Byddwn yn cynnig cymorth ariannol i brynwyr tro cyntaf lleol ac yn anelu i brynu tai oddi ar y farchnad a’u gosod i drigolion Gwynedd yn unol â’r polisi gosod lleol newydd yr ydym wedi ei gyflwyno.

“Yn ddiweddar, rydym wedi gweld gwaith adeiladu yn cychwyn ar gynllun tai amgylcheddol modern yng Nghaernarfon sy’n nodi’r prosiect adeiladu cartrefi cyntaf gan y Cyngor ers dros chwarter canrif.

“Uchelgeisiol”

Ychwanegodd Craig ab Iago: “Dyma’r math o gynlluniau cyffrous all wneud gwahaniaeth go iawn yn y farchnad dai lleol, ac rwy’n falch iawn ein bod yn gallu cynnig atebion cadarn o’r math yma yng Ngwynedd.

“Mae’r Cynllun Gweithredu Tai yn cynnwys dros 30 o brosiectau eraill hefyd fydd yn ceisio taclo’r heriau ym mhob rhan o’r sector gan gynnwys darparu mwy o lety i bobl ddigartref, adeiladu mwy o dai cymdeithasol i’w gosod i drigolion lleol a dod a thai gwag yn ôl i ddefnydd.

“Rydym wedi bod yn uchelgeisiol, ac rydym yn edrych ymlaen yn eiddgar i gychwyn ar y gwaith yn gynnar yn 2021.”

Cynlluniau

Mae’r adroddiad yn amlinellu 30 o gynlluniau ar draws y sir, ac yn dweud y bydd yn galluogi’r Cyngor i:

  • Hwyluso dros 500 o dai fforddiadwy newydd gan gynnwys adeiladu 100 o dai newydd i’w gwerthu neu osod i drigolion Gwynedd.
  • Cynnig benthyciadau ar gyfer 250 o brynwyr tro cyntaf lleol.
  • Sicrhau dros 600 o dai cymdeithasol newydd i Wynedd yn cynnwys prynu 72 cyn-dŷ cymdeithasol er mwyn eu rhentu i bobl leol yn unol â pholisi gosod lleol newydd y Cyngor.
  • Ymestyn cynllun grantiau i ddod a 250 o dai gwag yn ôl i ddefnydd ar draws y sir.
  • Buddsoddi mewn cartrefi eco-gyfeillgar fel y cynllun arloesol sydd ar waith ar hyn o bryd yn ardal Segontium, Caernarfon.
  • Datblygu 150 o unedau byw i bobl ddigartref yn y sir a chreu 130 o unedau newydd ar gyfer trigolion bregus.

Bydd Cabinet Cyngor Gwynedd yn ystyried yr adroddiad Cynllun Gweithredu Tai ar 15 Rhagfyr 2020.