Fe fydd yr isafswm oedran y gall rhywun brynu tocyn y Loteri Genedlaethol yn codi o 16 i 18 oed y flwyddyn nesaf.
Daw’r cyhoeddiad wrth i’r Ysgrifennydd Diwylliant Oliver Dowden lansio adolygiad o ddeddfwriaeth gamblo mewn ymdrech i ddiogelu plant a phobl sy’n agored i niwed.
Fe fydd yr isafswm oedran newydd yn dod i rym ym mis Hydref 2021 ac mae disgwyl i werthiant ar-lein i bobl ifanc 16 ac 17 oed ddod i ben ym mis Ebrill, yn ôl yr Adran Ddigidol, Diwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon (DCMS).
Dywedodd Nigel Huddleston, y gweinidog chwaraeon, twristiaeth a threftadaeth y byddai’r newid oedran yn helpu i sicrhau nad yw chwarae’r loteri yn lwybr at broblemau gamblo yn y dyfydol.
Fe fydd yr adran hefyd yn edrych ar fesurau eraill i ddiogelu pobl ifanc gan gynnwys cyfyngiadau ar faint y gallen nhw wario, hysbysebion a chynigion arbennig.
Ychwanegodd Oliver Dowden bod y diwydiant wedi newid ar “gyflymder aruthrol” a bod yr adolygiad yn sicrhau “ein bod yn mynd i’r afael a phroblemau gamblo yn ei holl ffurfiau i ddiogelu plant a phobl sy’n agored i niwed. Fe fydd hefyd yn helpu’r rhai sy’n mwynhau betio i wneud hynny’n ddiogel.”