Mae Gweinidog Iechyd Cymru, Vaughan Gething, wedi beirniadu penderfyniad Dug a Duges Caergrawnt i deithio i Gymru wrth i achosion o’r coronafeirws godi, gan ddweud y byddai’n well ganddo “pe na bai neb yn gwneud ymweliadau diangen”.

Dywedodd Vaughan Gething nad oedd ganddo “lawer o ddiddordeb” pan ofynnwyd iddo yn ystod rhaglen Today ar BBC Radio 4 os oedd yn credu y dylai’r cwpl barhau i deithio o gwmpas Cymru.

Ond dywedodd na ddylai ymweliad William a Kate, sy’n rhan o daith genedlaethol ar y trên brenhinol, gael ei ddefnyddio gan bobol fel “esgus” i ddweud eu bod yn “ddryslyd” am reolau’r coronafeirws.

Ategodd Vaughan Gething deimladau Nicola Sturgeon, Prif Weinidog yr Alban, a awgrymodd fod y Dug a’r Dduges wedi teithio i Gaeredin ddydd Llun (Rhagfyr 7) er i’w swyddfa gael gwybod am gyfyngiadau i’r rhai oedd am groesi’r ffin.

Dechreuodd y cwpl eu taith i Gymru drwy ymweld â Chastell Caerdydd, lle cawsant gyfarfod â myfyrwyr prifysgol a chlywed am yr heriau iechyd meddwl yr oeddent yn eu hwynebu yn ystod y pandemig.

Pan ofynnwyd iddo a oedd hi’n iawn i’r ddau ymweld â Chymru, atebodd Vaughan Gething: “Byddai’n well gen i pe na bai neb yn gwneud ymweliadau diangen, ac mae gan bobol bob amser wahanol farn am y frenhiniaeth, ond nid yw eu hymweliad yn esgus i bobol ddweud eu bod yn ddryslyd ynglŷn â’r hyn y dylen nhw fod yn ei wneud.”

Mae’r Dug a’r Dduges wedi bod yn teithio’r wlad yn diolch i weithwyr allweddol a rheng flaen a chymunedau am eu hymdrechion yn ystod y pandemig.