Mae achos o’r coronafeirws wedi’i gadarnhau yn Ysgol Henry Richard yn Nhregaron.

Mae gofyn i blant Meithrin a Derbyn yn yr ysgol hunanynysu am 14 diwrnod.

Mae’r ysgol wedi cysylltu â’r holl rieni i roi gwybod iddyn nhw.

Mae’r Cyngor yn annog pob rhiant i atgyfeirio eu plant am brawf os ydyn nhw’n datblygu unrhyw un o’r symptomau, sef:

  • tymheredd uchel
  • peswch parhaus newydd
  • colled neu newid i synnwyr arogli neu flas.

Dylai rhieni fod yn ymwybodol o symptomau eraill ar y dechrau, fel pen tost, blinder a phoenau cyffredinol sy’n gysylltiedig â’r ffliw fel arfer.