Bydd 6,000 o ddosau o’r brechlyn coronafeirws wedi cael eu rhoi i bobol yng Nghymru erbyn diwedd yr wythnos.
Bydd 40 miliwn dos o’r brechlyn Pfizer-BioNTech ar gael ar draws y Deyrnas Unedig, a Chymru’n cael dyraniad yn seiliedig ar ei phoblogaeth.
Bydd Cymru’n cael 40,000 o ddosau o’r cyflenwad cyntaf o frechlynnau a fydd yn cael ei ddanfon, sy’n ddigon ar gyfer bron i 20,000 o bobol.
Mae pob bwrdd iechyd ledled y wlad yn dechrau rhoi’r brechlyn heddiw (dydd Mawrth, Rhagfyr 8).
‘Llygedyn bach o olau ar ddiwedd twnnel hir a thywyll’
Dywedodd y Prif Weinidog, Mark Drakeford mai Cymru oedd y wlad gyntaf yn y byd i dderbyn cyflenwadau o’r brechlyn yr wythnos ddiwethaf.
“Heddiw, rwy’n falch iawn mai Cymru yw un o’r gwledydd cyntaf yn y byd i ddechrau cyflwyno’r brechlyn i’w phobol,” meddai.
“Mae 2020 wedi bod yn flwyddyn anodd tu hwnt i ni i gyd.
“Mae’r brechlyn hwn yn llygedyn bach o olau ar ddiwedd twnnel hir a thywyll.
“Ond dydy’r ffaith bod brechlyn ar gael ddim yn golygu bod modd i ni roi’r gorau i’r holl arferion sy’n ein diogelu.”
Achosion yn parhau i gynyddu
Daw’r brechlyn wedi i’r Ysgrifennydd Iechyd Vaughan Gething gadarnhau bod achosion o’r feirws yn codi mewn 19 allan o 22 o awdurdodau lleol.
Yn ystod cynhadledd i’r wasg brynhawn ddoe (dydd Llun, Rhagfyr 7), dywedodd fod y sefyllfa yng Nghymru yn un “ddifrifol iawn” a bod Llywodraeth Cymru yn “ystyried” a fydd angen cymryd camau pellach yn y flwyddyn newydd.
“Mae’r ffaith fod brechlyn diogel ac effeithiol wedi cael ei ddatblygu mewn llai na blwyddyn yn deyrnged aruthrol i’r holl ymchwilwyr a gwyddonwyr ar draws y byd sydd wedi gweithio’n ddiflino i ddod o hyd i frechlyn ar gyfer Covid-19,” meddai.
“Rydyn ni wedi bod yn gweithio mor galed i baratoi ar ei gyfer.
“Heddiw, bydd y bobol gyntaf yng Nghymru yn derbyn y brechlyn.
“Dyma’r newyddion cadarnhaol rydyn ni i gyd wedi bod yn aros amdano.
“Nawr byddwn yn gwneud popeth o fewn ein gallu i gyflenwi’r brechlyn Covid-19 ar draws Cymru dros y diwrnodau, yr wythnosau a’r misoedd nesaf.”