Mae Boris Johnson wedi rhoi’r gorau i gynlluniau a fyddai wedi caniatau i weinidogion dorri cyfraith ryngwladol ar ol i’r Deyrnas Unedig a’r Undeb Ewropeaidd ddod i gytundeb mewn egwyddor ar yr holl faterion sy’n weddill yn ymwneud â chytundeb ymadael Brexit.

Mae Michael Gove, gweinidog yn Swyddfa’r Cabinet, wedi bod yn cynnal trafodaethau gyda Maroš Šefčovič, is-lywydd y Comisiwn Ewropeaidd, ynglyn â’r Cytundeb Ymadael er mwyn datrys materion yn ymwneud yn bennaf a protocol Gogledd Iwerddon.

Mae eu trafodaethau yn cael eu cynnal ar wahan i’r rhai’n ymwneud a chytundeb masnach ol-Brexit ond fe allai’r cytundeb yma helpu i esmwytho’r berthynas rhwng y ddwy ochr.

Daeth y Cytundeb Ymadael i rym ym mis Chwefror pan oedd y Deyrnas Unedig wedi gadael yr UE ond mae disgwyl i’r protocol ddod i rym ar Ionawr 1 2021 pan fydd y cyfnod trosglwyddo yn dod i ben a phan fydd y DU yn gadael y farchnad sengl a’r undeb dollau.

Yn ei gyhoeddiad, mae Michael Gove hefyd wedi cadarnhau bod y Llywodraeth bellach wedi gollwng  bil y farchnad fewnol a fyddai wedi tanseilio’r cytundeb ymadael, yn ogystal â chynlluniau ar gyfer darpariaethau cysylltiedig yn y bil trethiant sydd i ddod.

Roedd na bryder hefyd bod y Bil yn “dwyn grymoedd” oddi wrth y Llywodraethau Datganoledig.

Dywedodd y datganiad ar y cyd yn nodi cynnydd yn y trafodaethau dan arweiniad Michael Gove a Maros Sefcovic: “Yn dilyn gwaith dwys ac adeiladol dros yr wythnosau diwethaf gan yr Undeb Ewropeaidd a’r Deyrnas Unedig, gall y ddau gyd-gadeirydd nawr gyhoeddi eu cytundeb mewn egwyddor ar bob mater, yn enwedig o ran y Protocol ar Iwerddon a Gogledd Iwerddon.”

Mae’r cytundeb yn ymdrin â materion sy’n cynnwys archwiliadau ar y ffin ar gynnyrch anifeiliaid a phlanhigion, cyflenwi meddyginiaethau a dosbarthu cigoedd oer a chynhyrchion bwyd eraill i archfarchnadoedd.

Roedd “eglurhad” hefyd ar gymhwyso rheolau ar gymorthdaliadau’r wladwriaeth.

Trafodaethau ar gytundeb masnach ddim am barhau’r flwyddyn nesaf – Stryd Downing

Ni fydd trafodaethau ar gytundeb masnach rhwng yr Undeb Ewropeaidd a’r Deyrnas Unedig yn parhau’r flwyddyn nesaf, yn ôl Stryd Downing ar ôl i Frwsel adael y drws yn agored i drafodaethau pellach.

Dywedodd llefarydd swyddogol y Prif Weinidog: “Rydym wedi bod yn glir bod angen cwblhau’r berthynas yn y dyfodol erbyn diwedd y flwyddyn ac ni fydd trafodaethau’n parhau i’r flwyddyn nesaf.

“Dyna fu ein safiad drwyddi draw.”

Ond mae prif drafodwr Brexit yr Undeb Ewropeaidd, Michel Barnier, wedi dweud na fydd y bloc “byth yn aberthu ein dyfodol ar gyfer y presennol” wrth i drafodaethau cytundeb masnach barhau.

Ysgrifennodd ar Twitter: “Briffio pob aelod-wladwriaeth yn y #GAC heddiw. Undod llawn. Ni fyddwn byth yn aberthu ein dyfodol ar gyfer y presennol. Daw amodau ar fynediad i’n marchnad.

“Gweithio’n agos gyda @DavidGHFrost a thîm i baratoi cyfarfod sydd ar y gweill rhwng @vonderleyen a @BorisJohnson.”

Aelodau Seneddol i eistedd dros y Nadolig?

Nid yw Rhif 10 wedi diystyru gwneud i Aelodau Seneddol eistedd dros gyfnod y Nadolig i basio unrhyw gytundeb Brexit.

Pan ofynnwyd a oedd cynlluniau wrth gefn i Dŷ’r Cyffredin eistedd rhwng Noswyl y Nadolig a’r Flwyddyn Newydd, dywedodd llefarydd y Prif Weinidog: “Os ydym yn dod i gytundeb masnach rydd, credwn fod amser i’w roi gerbron y Senedd.

“Rwy’n credu ein bod wedi gweld gallu’r Senedd o’r blaen i roi sel bendith ar gyflymder lle bo’ angen ac rydym yn parhau i gredu bod amser i wneud hynny.”

Dywedodd y llefarydd fod “amser yn amlwg yn brin” ond bod y Llywodraeth eisiau dod i gytundeb “cyn gynted â phosib”.

Boris Johnson yn mynu y bydd y Deyrnas Unedig yn “ffynnu” heb gytundeb fasnach

Dywedodd Boris Johnson wrth weinidogion y Cabinet y bydd y Deyrnas Unedig yn “ffynnu gyda neu heb” gytundeb masnach gyda’r Undeb Ewropeaidd.

Dywedodd llefarydd swyddogol y Prif Weinidog wrth sesiwn friffio yn San Steffan fod y Prif Weinidog wedi rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r Cabinet am y trafodaethau gyda’r Undeb Ewropeaidd fore Mawrth (Rhagfyr 8).

“Dywedodd ei fod yn awyddus i barhau i geisio dod i gytundeb ar y meysydd lle mae anghytuno’n dal i fodoli, ac fe wnaeth y Prif Weinidog yn glir bod yn rhaid i unrhyw fargen barchu ein hegwyddorion craidd ynghylch sofraniaeth a rheolaeth.

“Pwysleisiodd y byddai’r Deyrnas Unedig yn ffynnu gyda neu heb gytundeb masnach rydd gyda’r Undeb Ewropeaidd.”

Trafododd y Cabinet hefyd y broses o gyflwyno cronfeydd coronafeirws ac uchelgais y Llywodraeth i “adeiladu’n wyrddach”.

“Newyddion cadarnhaol”, medd Simon Coveney

Dywedodd gweinidog materion tramor Iwerddon, Simon Coveney, ei bod yn “newyddion cadarnhaol” bod cytundeb mewn egwyddor wedi’i wneud ar y materion sy’n weddill ar weithredu’r protocol ar Iwerddon a Gogledd Iwerddon.

“Mae ymrwymiad y Deyrnas Unedig i dynnu cymalau 44, 45 a 47 o Fil y Farchnad Fewnol yn ôl yn arbennig o bwysig, gan sicrhau ei fod yn cyd-fynd â’i rwymedigaethau o dan y Cytundeb Ymadael,” meddai.

“Daw’r newyddion cadarnhaol hyn ar ôl ymgysylltu sylweddol a chynhyrchiol rhwng yr Undeb Ewropeaidd a’r Deyrnas Unedig ar weithredu’r protocol, fel y darperir ar ei gyfer o dan y Cytundeb Ymadael.

“Edrychaf ymlaen at gyfarfod cynnar o Gyd-bwyllgor yr Undeb Ewropeaidd – Deyrnas Unedig, dan gadeiryddiaeth is-lywydd y comisiwn Maros Sefcovic a Michael Gove, i ffurfioli’r cytundebau.

“Rwy’n gobeithio y gallai hyn hefyd ddarparu rhywfaint o’r momentwm cadarnhaol sydd ei angen i feithrin hyder ac ymddiriedaeth a chaniatáu cynnydd yng nghyd-destun ehangach y trafodaethau ar berthynas yn y dyfodol.”