Mae’r Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch wedi cadarnhau bod eu swyddogion yn rhan o ymchwiliad i achosion diweddar o’r coronafeirws yn safle cwmni Rondo Media yng Nghaernarfon.

Dywedodd llefarydd o’r Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch eu bod yn ymwybodol o nifer o achosion yn safle’r cwmni, a’u bod yn cydweithio gyda Chyngor Gwynedd fel rhan o’r ymchwiliad.

Mewn datganiad i Newyddion S4C, dywedodd Rondo Media eu bod wedi hysbysu’r Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch am yr achosion o Covid-19 a bod ganddynt weithdrefnau “priodol a manwl” mewn lle.

Roeddent hefyd wedi “gweithredu ar argymhellion pellach”.

Cyngor Gwynedd

Dywedodd Cyngor Gwynedd fod swyddogion o Wasanaeth Gwarchod y Cyhoedd “wedi cynnal trafodaethau gyda chynrychiolwyr o’r cwmni mewn ymdrech i sefydlu’r rhesymau am ledaeniad yr haint ac i adnabod unrhyw welliannau posib i’w gweithdrefnau.”

Mae cwmni Rondo Media yn gweithredu o safleoedd yng Nghaernarfon, Caerdydd, a Phorthaethwy a Llangefni ar Ynys Môn.

Mae’r ddrama gyfres boblogaidd Rownd a Rownd yn cael ei ffilmio ar y safle ym Mhorthaethwy.

Cafodd y gwaith o ffilmio’r gyfres ei ohirio ddwywaith yn y misoedd diwethaf, yn sgil y cynnydd mewn achosion o goronafeirws ym Môn a Gwynedd.

“Nid oes sicrwydd pendant am darddiad a lledaeniad yr haint”

Dywedodd Cyngor Môn fod swyddogion Iechyd yr Amgylchedd wedi ymweld â dau safle Rondo Media ar yr ynys ar 16 Chwefror “a gwnaed argymhellion mewn perthynas ag ehangu’r mesurau Covid-19 presennol a chyflwyno mesurau ychwanegol.”

Mewn datganiad, dywedodd Rondo Media: “Yn unol â deddfwriaeth iechyd a diogelwch, fe hysbysebon ni’r Gweithgor Iechyd a Diogelwch o dan drefn RIDDOR [Reporting of Injuries, Diseases and Dangerous Occurrences Regulations] o’r achosion o Covid-19 a gafwyd yn ein safle yn Cibyn.

“Fe gysyllton ni’n syth hefyd yn uniongyrchol gyda Gwasanaeth Gwarchod y Cyhoedd Cyngor Gwynedd i’w hysbysu am yr achosion.

“Nid oes sicrwydd pendant am darddiad a lledaeniad yr haint.

“Nododd swyddog Gorfodaeth Gwarchod y Cyhoedd, Cyngor Gwynedd fod polisi amddiffyn Rondo rhag lledaenu Covid-19 yn y gweithle yn dda a bod gweithdrefnau a chanllawiau priodol a manwl mewn lle.

“Rydym wedi cynnal trafodaeth adeiladol gyda’r swyddogion ac wedi gweithredu ar argymhellion pellach megis agor y ffenestri’n amlach er mwyn cynyddu’r cylchrediad o aer ffres yn yr adeilad.”

“Mesurau cynhwysfawr yn eu lle”

Ychwanegodd y datganiad nad oedd unrhyw ledaeniad o’r feirws wedi digwydd rhwng y safle yn Cibyn a’r safleoedd ar Ynys Môn, “ond er hyn fe drefnwyd ymweliad gan swyddogion Cyngor Môn i’n swyddfeydd yn Llangefni a Phorthaethwy.

“Yn dilyn yr ymweliadau hynny nodwyd bod gennym fesurau cynhwysfawr yn eu lle ar gyfer cydymffurfio â’r Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) a thrafodwyd rhai argymhellion ychwanegol megis gosod arwyddion priodol a chynyddu’r nifer o ddiheintyddion sydd ar gael.”

Dywedodd y cwmni hefyd fod ganddynt system o ‘brofion llif unffordd’ ar gyfer eu cynyrchiadau.

Dywedodd llefarydd ar ran S4C fod cwmni Rondo Media “wedi rhannu eu gweithdrefnau Covid-19 gyda S4C ers dechrau’r pandemig ac wedi eistedd ar sawl fforwm sy’n ymwneud â gofynion cynhyrchu yn ystod y cyfnod heriol hwn, gan weithio gyda chwmnïau arbenigol sy’n eu cynghori ar ofynion iechyd a diogelwch yn unol â pholisi S4C.”

Atal ffilmio Rownd a Rownd unwaith eto

Dyma’r eildro mewn mis i gwmni cynhyrchu Rondo benderfynu atal ffilmio’r gyfres boblogaidd

Gohirio ffilmio Rownd a Rownd oherwydd achosion Covid-19

Cwmni teledu Rondo yn cadarnhau fod aelodau o staff wedi profi’n bositif, ond nad oes achosion ymhlith cast a chriw Rownd a Rownd